Yr oedd Llew erbyn hyn wedi treulio chwe mis yn yr Ysgol Sir yn Llandeifi. Ai yno fore Llun ac yn ôl nos Wener gyda phlant y Felin yn eu car poni. Gwnai ei dad ychydig waith saer yn awr ac yn y man yn y Felin yn dâl am hyn. Ofnai ei rieni na allent ei gadw yno ar ôl diwedd y flwyddyn, ac ofnent na chai Myfanwy fynd yno o gwbl er mai dysgu oedd mwynhad pennaf y ddau blentyn. Y mae eisiau arian cyn cael addysg. Nid am ddim y ceir bwyd a dillad a llyfrau a llety. Nid oedd llawer o arian ym Mrynteg. Prin oedd gwaith y saer wedi bod er ys tro. Nid oedd yr hyn a ddeuai o'r tyddyn yn ddigon i gynnal pedwar, heb sôn am roi addysg i ddau ohonynt. Hyn oedd achos y pryder yng nghalonnau'r tad a'r fam. A fyddai'n rhaid i Llew a Myfanwy fynd i wasanaethu ar un o ffermydd yr ardal er mwyn ennill eu bywioliaeth? Pa lwybr arall oedd yn agored iddynt ynghanol y wlad? Pe rhoddid hwy i ddysgu rhyw grefft byddai'n rhaid aros yn hir cyn deuent i ennill dim. Sut gallai'r tad a'r fam oddef eu gweld yn gwneud gwaith y gallai'r mwyaf didalent ei wneud a gwybod bod ynddynt gymwysterau at bethau uwch? Breuddwyd y ddau oedd gweld eu mab a'u merch yn uchel mewn dysg a dylanwad.
Cyn iddynt benderfynu dim, ac ymhell cyn diwedd blwyddyn Llew yn yr ysgol, daeth llythyr i Mrs. Llwyd oddiwrth ei chwaer yn Sir Benfro, yn dywedyd y carent hwy fel teulu ddyfod am dro i Frynteg, a threulio noson yno pan fyddai hynny'n gyfleus.