Tudalen:Breuddwydion Myfanwy.djvu/28

Gwirwyd y dudalen hon

arnynt, a phob gair arall yn Saesneg, er mai Cymry oedd pob un a fyddai'n debig o'u darllen. Dywedai'r papurau hyn y gwerthid, ar yr ail o Hydref bopeth oedd ym Mrynteg, oddimewn ac oddiallan,—gwair, gwartheg, hwyaid, ieir, ietau, peiriannau, gwelyau, dodrefn, llestri, darluniau a llyfrau. Diwrnod prudd iawn oedd hwnnw, yn enwedig i Mr. a Mrs. Llwyd. Chwalwyd y nyth y buwyd mor hapus yn ei hadeiladu. Mynnai dwy linell o hen rigwm Saesneg redeg drwy ben Meredydd Llwyd drwy'r prynhawn:—

"Not all the king's armies, nor all the king's men,
Can put Humpty Dumpty together again."

Gwerthwyd eu holl eiddo. Nid aent â dim gyda hwy ond a fedrent ei roddi mewn cistiau,—eu dillad, rhai llyfrau, a rhai trysorau bychain ereill na allent ymadael â hwy.