Tudalen:Breuddwydion Myfanwy.djvu/31

Gwirwyd y dudalen hon

haswy, a'r Ruth Nikso yn prysuro dros fôr llyfn i gyfeiriad Gibraltar. Yr oedd y plant erbyn hyn yn ddigon hŷ i siarad â rhai o'r teithwyr eraill. Holent hwy am enwau'r trefi a welent ar y llethrau pell. Yr oedd уг atlas a astudient ar y Sul hwnnw ym Mrynteg yn llaw Llew, a gwneid defnydd mawr ohono gan y pedwar. Mynnent weld arno bob porthladd a phen— rhyn, pob ynys ac afon a welent ar y daith. Fel hyn gwelsant Vigo, Oporto, Lisbon, Penrhyn Sant Finsent, Pileri Hercules a Gibraltar. Pan ddaethant i fyny i'r dec ar y pumed dydd yr oeddynt ar y Môr Canoldir. O, dyna lâs oedd y môr a'r awyr! A dyna beth rhyfedd oedd meddwl mai Affrica oedd y tir a welent ar y dde!

"Dyma fy mreuddwyd i wedi dod i ben," ebe Myfanwy.

"A freuddwydiaist ti ddim am Awstralia?" ebe Gareth.

"Naddo" ebe Myfanwy.

"Trueni," ebe Gwen, "Gallem gael gwybod gennyt sut le sydd yno."

"Allaf i ddim breuddwydio pryd y mynnaf na pheth y mynnaf," ebe Myfanwy.

"Cei ddigon o amser i freuddwydio am Awstralia cyn byddwn ni yno," ebe Llew.

Yr oedd yn dwym fel canol haf. Nid oedd ar neb awydd gwneud dim ond lled-orwedd ar y cadeiriau oedd ar y dec, ac edrych o'u cylch. Hyfrytach fyth oedd eistedd yno yn y nos, pan oedd popeth yn ddistaw ond sŵn y peiriannau, a gwylio'r sêr yn yr