V
Gwelais yn gwgu lâs waneg eigion
A thywyllwch aeth ei llewych weithion.
—R. WILLIAMS PARRY (Yr Haf).
ER cymaint oedd awydd Meredydd Llwyd a'r lleill i aros ac edrych, mynd yn ei blaen a wnai'r llong o hyd, heibio a thrwy'r lleoedd mwyaf hen a diddorol a newydd a rhyfedd, Alecsandria, Port Said, Camlas Suez a'r Môr Coch. Wedi dechreu synnu at un rhyfeddod, deuai rhyfeddod arall i'r golwg.
"Yn wir, y mae dynion yn glefer," meddai Mr. Rhys. "Meddyliwch am y medr oedd yn eisiau i wneud y gamlas hon."
"Ie, ac i wneud y llong yma, o ran hynny," ebe ei wraig.
"Ac nid yn ddiweddar y mae dynion wedi bod yn glefer," ebe Meredydd Llwyd. "Dynion a adeiladodd y pyramidiau, filoedd o flynyddoedd yn ôl. Nid oes dim rhyfeddach na'r rhai hynny yn y byd."
"Y mae'r Aifft ar un ochr i ni yn awr, a Mynydd Sina ar yr ochr arall," ebe Llew.
"Yr ydym fel pe baem yn byw yn amser yr Hen Destament," ebe Ifan Rhys.