Tudalen:Breuddwydion Myfanwy.djvu/36

Gwirwyd y dudalen hon

Canoldir yn Gibraltar. Yn awr, wynebent ar y De. Pa beth a'u harhosai yno?

Hyd yn hyn yr oedd awyr a môr wedi bod yn hynod garedig tuag atynt. Ni ddaethai na storm na niwl i'w blino. Gwir bod y gwres enbyd wedi peri grwgnach rai gweithiau. Teimlent erbyn hyn fod y gwaethaf drosodd. Ymhen deuddeng niwrnod byddent yn St. George's Sound, yn Awstralia. Wythnos arall, a byddent yn Sydney.

Dyna'r cynllun, ond a ddeuai'r cynllun i ben? Wedi croesi'r cyhydedd, aeth y gwres yn fwy llethol. Rhyw wres trwm, llaith, ydoedd. Nid oedd na gwynt na thón, er hynny dechreuodd y llong godi a gostwng yn beryglus. Yn fuan, gyrrodd ei symudiadau y rhan fwyaf o'r teithwyr i'w cabanau. Teimlent fel pe bai hwnnw eu dydd cyntaf ar y môr. Rhedai'r morwyr yn wyllt yma a thraw, a'r chwys yn diferu oddiar eu talcennau. Aeth y si ar led fod y barometer yn isel iawn. Daeth ofn i galonnau llawer. Yr oedd storm yn rhywle. Deuai yn gyflym tuag atynt. Machludodd yr haul a'i liw fel lliw lleuad wannaidd. Rhyngddo â'r De cyfodai cwmwl tew, dugoch, ar y gorwel.

Yr oedd gan y teithwyr ffydd gref yn eu capten. Diau ei fod ef yn hen gyfarwydd â storm ar y môr. Efallai na fyddai hon pan dorrai yn waeth na llawer a welsai ef. Ond O! yr oedd yr ysgwyd yn ofnadwy! Ni allai neb na dim sefyll yn yr unfan.

Yr oedd y capten ei hun yn llawn pryder, er na ddangosai hynny. Un o gorwyntoedd mawrion y