Tudalen:Breuddwydion Myfanwy.djvu/40

Gwirwyd y dudalen hon

heblaw y ddau forwr a rwyfai. Safai llawer o'r rhai hyn ar eu traed, yn gweiddi ac yn crio yn eu gwylltineb, a'u symudiadau sydyn yn bygwth dymchwelyd y cwch bob munud. Gwaeddai'r lleill arnynt i eistedd a bod yn llonydd ac yn ddistaw. Rhegai rhai, gweddiai eraill. Eisteddai Llew a Gareth a Myfanwy yn dynn gyda'i gilydd, yn crynu gan ofn, ond yn ddistaw iawn, a'u calonnau'n drwm gan bryder a gofid.

Arhosodd y ddau forwr ar eu rhwyfau am funud o seibiant. Synnodd pawb deimlo'r cwch yn mynd ymlaen yn gyflym ohono'i hun. Bernid eu bod yn llwybr rhyw chwyrnllif yn y môr, efallai mewn culfor rhwng rhai o'r ynysoedd bach a mawr sydd tua Gogledd Awstralia. I ba le yr arweinid hwynt? oedd yn bosibl bod rhai o'u cyd-deithwyr wedi mynd. gyda'r llif i'r un cyfeiriad â hwythau? Weithiau, am ychydig funudau, codai'r niwl fel pe i ddangos iddynt mor ddiobaith oedd eu sefyllfa. Ni welent nac ynys. na chraig, na chwch, dim ond ehangder o fôr llyfn ac wybren ddu uwch ei ben.

Ni fedrodd Llew na Gareth na Myfanwy byth wedyn ddisgrifio'n iawn ddigwyddiadau ofnadwy'r ddeuddydd dilynol. Yn y brys a'r rhuthr wrth adael y llong, ni feddyliwyd am roddi bwyd a dŵr yn y cwch. Pan ddaeth y bore daeth eisiau bwyd ar bawb. Gwaeth na hynny, daeth arnynt syched ofnadwy. Cliriodd y niwl gyda'r dydd. Gwenai awyr ddigwmwl uwchben. Yn fuan, aeth gwres yr haul yn annioddefol. Taflai ei belydrau tanbaid yn ddidrugaredd ar y cychaid digysgod. Paham y buont mor rhyfygus a grwgnach