Tudalen:Breuddwydion Myfanwy.djvu/43

Gwirwyd y dudalen hon

VII

Dodwyd hwy ar dramor draeth
I fyw a bod, er gwell, er gwaeth.
—CEIRIOG (Llongau Madog).

DAETH ochenaid o'r cwch ag ef ato'i hun. Neidiodd i mewn.

"Llew! Llew!" ebe llais gwan Myfanwy. "Mae mam yn galw! Dere i'r tŷ."

Yr oedd Myfanwy wedi dyrysu yn ei synhwyrau, ac yn byw drachefn yr amser oedd mor bell yn ôl.

"O, Llew! Dŵr! Dŵr!"

'Ti gei ddŵr yn awr ymhen munud," ebe Llew, heb wybod o ba le y deuai. Cododd focs tin gwag oedd ymhlith pethau eraill ar lawr y cwch,—bocs melysion a adawsai rhywun yno. Gwelodd ei lygaid gwyllt rywbeth fel llinyn arian ar y traeth fan draw. Rhedodd nerth ei draed tuag ato. O, lawenydd! Afonig fach ydoedd yn ymledu'n fâs ar y tywod. Gwnaeth le i'r dŵr gronni. Llanwodd ei focs a rhedodd yn ôl. Yr oedd syched ofnadwy arno ef ei hun, ond nid oedd amser i'w golli. Beth pe bai Myfanwy'n marw!

"Dyma fe, Myfanwy. Myfanwy! Dŵr, Myfanwy!" Yr oedd Myfanwy wedi llewygu eto, neu wedi marw.