Arllwysodd Llew ychydig o'r dŵr gwerthfawr ar ei law a thaflodd ef ar wyneb Myfanwy. Gwnaeth yr un peth â Gareth, a'i ysgwyd a galw arno.
"O, dir!" ebe Gareth. "O'r goreu, nhad. 'Rwy'n codi 'nawr."
Yr oedd yntau yn ôl yn y dyddiau pell, yn ei wely gartref, ac yn meddwl mai ei dad a'i galwai i godi.
Gwylltiodd Llew. Ysgydwodd Gareth yn ddidostur a gweiddi:—
"Dihuna, Gareth. Y mae eisiau dy help arnaf i. A wyt ti'n clywed? Gareth! Dyma ddŵr i ti. O, Gareth, dere! Y mae Myfanwy'n marw."
Aeth y geiriau hynny adref. Cododd Gareth ei ben. "Beth! Myfanwy! Pwy sydd yna? Pa le mae Myfanwy? Pa le'r wyf i?"
"Dihuna 'nawr, a dere i wneud rhywbeth," ebe Llew'n gwta. Aeth at Myfanwy. Arllwysodd ychydig ddŵr rhwng ei gwefusau, a thaflodd ychydig ar ei thalcen. Cyn hir, agorodd Myfanwy ei llygaid. Edrychodd ar ei brawd a dywedyd yn wannaidd, "Llew!"
Erbyn hyn yr oedd Gareth yn effro. Dechreuodd holi Llew.
"Nid oes amser i siarad yn awr," ebe Llew. "Yr wyf yn mynd i hôl ychwaneg o ddŵr. Paid â symud. oddiwrth Myfanwy. Byddaf yn ôl ymhen pum munud. Y mae eraill yn y cwch yma. Rhaid eu helpu hwythau."
Aeth yn uwch i fyny y tro hwn, lle nad oedd y nant mor fâs. Yfodd o'r dŵr clir nes ei ddisychedu.