Tudalen:Breuddwydion Myfanwy.djvu/49

Gwirwyd y dudalen hon

VIII

Let us then be up and doing,
With a heart for any fate.
—LONGFELLOW (Psalm of Life).

LLEW a Gareth oedd y cyntaf i godi bore trannoeth. Dyna deimlad hyfryd oedd deffro a'r awyr lâs uwch eu pennau, yr awel fwyn yn chwarae ar eu hwynebau, a miwsig y môr yn eu clustiau.

"Gareth," ebe Llew yng nghlust ei gefnder. "Yr wyf i'n mynd i ymdrochi yn y môr. A ddeui di?"

Yr oedd Gareth ar ei draed cyn pen munud.

Amneidiodd Llew arno i beidio â gwneud dim sŵn rhag deffro'r lleill. Rhedasant dros y tywod caled tua dau can llath o'r gwersyll. Gadawsant eu dillad ar y traeth ac i mewn â hwy, a chwarae fel pysgod yn nyfroedd clir y lagŵn. O dyna fore hyfryd ydoedd! Dyna lâs oedd dyfroedd y lagŵn! Dyna ddisglair oedd y traeth, a dyna ogoneddus o wyrdd oedd dail y coed ar y llethrau! Draw, tua hanner milltir o'r fan lle'r oeddynt, yr oedd y rhibyn o greigiau cwrel. Clywent ru'r môr o'r tuhwnt iddo, a deuai cawod o ewyn gwyn drosto yn awr ac yn y man. Ni welent