Tudalen:Breuddwydion Myfanwy.djvu/51

Gwirwyd y dudalen hon

"A welwn ni rai ohonynt eto?" ebe Llew'n drist.

"O, nid wyt yn meddwl eu bod wedi boddi," ebe Gareth.

"Boddodd pawb o'n cwch ni ond ni ein pump," ebe Llew.

"Efallai eu bod hwy wedi bod yn fwy ffodus na ni. O, rwy'n gobeithio bod Gwen a hwythau gyda'i gilydd," ebe Gareth.

Dyna drueni ein bod ar wahân pan drawodd y llong! Pe baem gyda'i gilydd gallasem fod wedi mynd i'r un cwch," ebe Llew.

Yr oedd y ddau wedi mynd yn brudd iawn. Ni ddaw doe a'i gyfle'n ôl i neb. Didostur ydyw deddfau bywyd.

Nid oes dim fel gwaith i yrru ymaith ofid. Yr oedd yn rhaid i Llew a Gareth weithio os am fyw.

"O! Y mae eisiau bwyd arnaf. Pa beth a gawn ni i'w fwyta?" ebe Gareth.

"Y mae'r te a'r ham a'r wyau yn sicr o fod yn barod erbyn hyn," ebe Llew. "Te twym, neis, a bara menyn hyfryd!"

"A oes colled arnat ti, Llew?" ebe Gareth yn ddifrifol.

Chwarddodd Llew. "Y mae eisiau bwyd arnaf fel tithau, ac yr wyf yn siwr fod eisiau bwyd ar Myfanwy a'r ddau arall yna. Rhaid i ni edrych am frecwast iddynt hwy a ninnau. Y mae gennym fananau rhyngom â'r gwaethaf."

Aethant at y pren banana oedd ar lán y nant. Plygai dan ei ffrwyth. Yr oedd arno ddigon o ymborth