Mr. Luxton. "Pe baem yn byw yn agos i gyfleusterau buaswn yn dweyd wrthych chwi Gareth am ddatblygu eich talent. Ni synnwn glywed am danoch yn arlunydd mawr ryw ddydd."
"Nid oes gennyf ychwaneg o bapur, syr," ebe Gareth.
"Efallai daw papur o rywle rywbryd," ebe Llew. "O, y mae dyddiadur gennych chwi, Llew, onid oes? Yr oedd gennyf innau un. Tebig ei fod gyda phethau eraill yn fy nghist ar waelod y môr. A fedrwch chwi ddweyd pa ddydd yw hi heddiw?"
"Y dydd y daeth y niwl mawr yr ysgrifennais ddiwethaf, syr. Dim ond dau air sydd gennyf gyferbyn â'r dydd hwnnw. Dyma hwy: "Dechreu tawelu." Nid oes dim gyferbyn â'r tri diwrnod cyn hynny. Yr oedd y llong yn siglo gormod."
"Ie, ac wedi'r tawelu daeth y niwl. Pa bryd ar ôl hynny y trawodd y llong?"
"Ymhen ychydig oriau, 'rwy'n meddwl, llai na diwrnod, 'rwy'n siwr."
"Yn y nos y trawodd," ebe Myfanwy.
"Y niwl oedd yn gwneud y nos," ebe Gareth.
"Na, credaf fod Myfanwy'n iawn. Yr oedd yn dechreu nosi cyn i'r niwl ddod. Aethom i'r cwch felly ar yr un-fed-ar-ddeg, neu yn fore ar y deuddegfed. Ai deuddydd fuom ynddo?"
"Ie, nos a diwrnod a nos, ac yr oeddym yma cyn diwedd y diwrnod arall," ebe Llew.
Cauodd Madame ei llygaid a chrynu drwyddi wrth atgofio'r amser ofnadwy hwnnw.