X
Rhedai balm yr awel deneu drwy yr irgoed glâs dan sisial
Llesmair ganig uwchben grisial y dŵr gloywa fu erioed;
Fel y clywsoch ŵr o Gymro'n gosod pennill ar y tannau,
Felly neidiai'r chwim gorfannau ar wefusau dail y coed.
—W. J. GRUFFYDD (Ynys yr Hud).
CERDDODD y tri eraill gyda hwy hyd y fan lle llifai'r nant dros y traeth. Dilyn cwrs y nant i fyny at ei tharddell oedd y cynllun goreu, meddai Mr. Luxton. Aeth y ddau yn fuan o'r golwg yn y coed.
Ar y dechreu, rhestri o balmwydd coco, yn gŵyro'n hiraethus tua'r môr, oedd o'u cylch ym mhobman. Rhai enfawr ar ffurf rhedyn yw dail y coed hyn. Y mae'r goes, neu gangen ganol y ddeilen tua phymtheg troedfedd o hyd. Tŷf y ffrwyth gwyrdd a'r rhai brown aeddfed ar yr un pryd ar y pren. Yr oedd llu ohonynt wedi syrthio ar y ddaear. Cododd Mr. Luxton ddwy o'r rhai gwyrdd, a gofynnodd i Gareth am fenthyg ei gyllell.