"Nid yw'r rhai yna yn aeddfed," ebe Gareth, ac estyn ei gyllell wedi ei hagor yng nghyntaf.
'Gwn hynny," ebe Mr. Luxton. "Darllenais rywle fod sudd hyfryd yn y rhai gwyrdd yma, un da at dorri syched, a'i flâs rywbeth yn debig i lemonêd. Cawn ei brofi'n awr."
"O, rhagorol!" ebe Gareth, wedi sugno peth o'r hylif o'r twll a wnaethai Mr. Luxton yn y gneuen. "Dyna drueni na bai'r lleill yma gyda ni! Cawn ddigon o lemonêd mwy, bryd y mynnom. Rhaid i ni fynd â nifer dda ohonynt yn ôl gyda ni."
"Y pwnc yw sut i'w cario. Arhoswch! Caiff y pren yma roddi bag i ni eto. Dyma un gweddol isel. A fedrwch ei ddringo a thorri cangen i mi!"
Nid gwaith hawdd oedd dringo'r pren am nad oedd lle i roddi troed arno. Gwaith anhawddach fyth oedd torri'r gangen. Wedi llwyddo, taflodd hi i lawr, a llithrodd yntau i lawr ar ei hôl.
"Dyma'r peth oeddwn am ei gael," ebe Mr. Luxton, a thynnu'n rhydd yn ofalus rywfath o liain oedd am fôn y gangen. Dywedodd Gareth iddo gael gwaith caled i dorri'r gangen am fod y lliain yn ei dál mor ddiogel wrth y pren. Dywedodd Mr. Luxton fod yr un peth wrth fôn pob cangen o'r palmwydd coco, er mwyn eu cadw rhag eu hysigo gan y gwynt. Un brown, cryf, ydoedd, wedi ei weu fel rhai o'r defnyddiau a werthir mewn siopau.
"Edrychwch!" ebe Mr. Luxton. "Y mae hwn tua hanner llath o hyd a thua troedfedd o led. Gallwn wneud bag bychan ohono drwy glymu ei gorneli."