gwyrdd o fwsogl a phorfa. Tyfai blodau gwyn a choch a glâs a melyn o amgylch y fan. Ni wyddai hyd yn oed Mr. Luxton eu henwau. Tuhwnt i'r ffynnon yr oedd pren banana arall, ac ar y llethr yr ochr arall fforest o lwyni,—orennau, lemonau, a rhyw ffrwythau eraill dieithr i'r ddau deithiwr. Hedai myrdd o ieir bach yr haf o bob lliw'r enfys o flodyn i flodyn. Codai twrr o adar i'r awyr yn awr ac yn y man,—adar amryliw fel ieir bach yr haf, ond adar digân. Ni chlywid dim sŵn yn y man paradwysaidd hwnnw ond tincl tincl y nant a rhu pell yr eigion yn taro ar y creigiau cwrel.
Eisteddasant wrth y ffynnon am funud o seibiant. Yfasant o'r dŵr clir a bwytasant fananau ac orennau. "Yr wyf yn siwr y gallai Madame a Myfanwy gerdded hyd yma," ebe Gareth.
'Gallent, yn ddiau," ebe Mr. Luxton, "pe cerddem ni ein tri o'u blaen a gwneud llwybr iddynt â'n ffyn." "O, bydd yn hyfryd bod yn y lle hwn gyda'i gilydd," ebe Gareth.
Ymlaen â hwy drachefn. Ai eu llwybr yn fwy a mwy serth. Heb gymryd amser i sylwi ar y rhyfeddodau o'u cylch, cerddasant yn ddygn drwy'r prysgwydd tew. Wedi tua dwy awr o ddringo caled, daethant allan i le uchel, gwastad a moel. Yr oeddynt ar ben y bryn.
Ar y pen isaf iddo, rhyw fryn hir, cul, ydoedd, a'i gopa'n wastad ar un pen ac yn graddol ymgodi i bigyn uchel ar y pen arall. Ar y fan lle safent hwy yr oedd porfa dew esmwyth. Yn uwch i fyny rhyngddynt