Tudalen:Breuddwydion Myfanwy.djvu/65

Gwirwyd y dudalen hon

llyfn o liw gwyrdd tywyll a thua troedfedd neu fwy o hyd. Edrychai ei ffrwyth yn debig iawn i dorthau bychain. Breadfruit yw yr enw Saesneg arno.

"Wedi ei goginio, y mae hwn yn debig iawn ei flas i fara, ac yn faethlon iawn, ebe Mr. Luxton. "Dewch i dynnu rhai."

"Ond sut coginiwn ni ef? ebe Gareth.

"Angen yw mam dyfais. rhywbeth."

Nid oes llestr gennym,"

Rhaid i ninnau ddyfeisio

Cyn mynd ymhell safodd Mr. Luxton o flaen rhyw blanhigion isel, a dechreu turio â'i ffon ac â'i ddwylaw. Daeth gwreiddyn mawr i'r golwg o liw porffor ac yn fwy ei faint na'i ben. Cafodd un arall mwy fyth o dan blanhigyn arall.

"Yam yw enw hwn," ebe Mr. Luxton. "Bwyteir ef bob dydd gan bobl y gwledydd lle y tŷf, ac y mae yn flasus a da.

"Dyna dda eich bod yma!" ebe Gareth. "Ni fuasai Llew a minnau yn gwybod gwerth y pethau hyn. Byddem yn sicr o newynu ynghanol digonedd."

"Nid yw darllen a dysgu yn waith ofer, hyd yn oed mewn lle fel hwn," ebe Mr. Luxton.

Yna crynhoisant gymaint o ffrwythau âg a fedrent eu cario,—bara, yam, orennau a lemonau—a brysiasant o'r fan.

Wedi cyrraedd y traeth, synnodd y ddau deithiwr llwythog a blinedig weld tân mawr yn y gwersyll, a Madame a Myfanwy a Llew yn penlinio o'i gylch,