Rhoddodd dair o'r torthau yn lludw poeth y tân. Yr oedd y fflamau mawr wedi mynd, ond yr oedd digon o wres ar ôl.
"Am y tro hwn," ebe Madame, "bwytâwn y pysgod yng nghyntaf a'r bara ar eu hôl, neu bydd y pysgod wedi oeri a mynd yn ddiflas."
Rhoddodd ei gyfran i bob un ar ddarn o ddeilen banana. Defnyddient eu bysedd yn lle ffyrc. Chwarddent am eu dull barbaraidd o fwyta, ond ni fu pysgod erioed yn fwy blasus na'r rhai hynny.
Yna daeth tro'r bara. Yr oedd erbyn hyn wedi rhostio a'i groen wedi cracio, a'r bywyn gwýn wedi dyfod i'r golwg. A dau bren cododd Mr. Luxton y tair torth i ddysgl. Deilen oedd y ddysgl eto. A chyllell Gareth wedi ei sychu'n ofalus â deilen arall, torrodd ymaith y croen a thynnodd allan ganol y ffrwyth, neu y galon. Nid yw hwnnw'n dda i'w fwyta. Yna cododd Madame ddarn o'r bara ffres hyfryd i bob un, ar blatiau glân, bid siwr. Rhyngddynt bwytasant y tair torth, a barn pob un ohonynt oedd eu bod yn rhagorol. I orffen y pryd, cawsant faint a fynnent o orennau a bananau, a gofalodd Gareth fod digon o lemonêd ar gyfer pob un.
Ar ôl swper—nid oedd eisiau golchi llestri—buont yn adrodd helyntion y dydd i'w gilydd. Disgrifiodd Mr. Luxton a Gareth gymaint ag a welsent o'r ynys, os ynys ydoedd. Gan nad oeddynt yn sicr ar y pen hwnnw, trefnwyd bod y ddau fachgen i gychwyn gyda'r wawr drannoeth, a mynd hyd ben pellaf y bryn. Ar awgrym Gareth, penderfynwyd eu bod