Tudalen:Breuddwydion Myfanwy.djvu/68

Gwirwyd y dudalen hon

oll i fynd hyd y ffynnon, a Mr. Luxton a Madame a Myfanwy i aros yno hyd nes y deuent hwy eu dau yn ôl. Yr oedd Myfanwy erbyn hyn yn fwy cartrefol. Wedi byw diwrnod yn y lle, ac wedi deall nad oedd yno anifeiliaid na dynion gwyllt, yr oedd yn fodlon i'r bechgyn fynd o'i golwg am dipyn.

"Yn awr, gwell i ni fynd i orffwys," ebe Mr. Luxton. "Y mae'r haul ar fynd i lawr. Bydd rhaid codi'n fore yfory."

"Lw show you bedrooms" ebe Madame, a gwenodd Myfanwy a Llew. ("Lw" oedd ffordd Madame o ddywedyd enw Llew, a "Thlew" a ddywedai Mr. Luxton.)

Tu ôl i'r tân, o dan gysgod y palmwydd, gwelodd Mr. Luxton a Gareth bump o gabanau bychain. Goleu'r tân a'u cuddiasai oddiwrthynt o'r blaen. Yr oedd y teulu gartref yn wir wedi bod yn brysur iawn. Gwir mai ysgafn a bregus oedd y cabanau. Nid oeddynt ond polion main a dail. Ond rhoddent gysgod rhag y gwlith, ac yr oedd dail sych, glân, yn wely esmwyth ym mhob un. Ar y tywod yr oedd eu seiliau, a phe deuai storm, ar lawr y byddent yn sarn. Yn ffodus, ni ddaeth dim o'r fath y noson honno. Cawsant bob un gysgu'n felys hyd doriad y wawr.