'Rhaid ein bod wedi newid ein llwybr," ebe Gareth. "Beth bynnag, credaf ein bod wedi darganfod rhywbeth diddorol a defnyddiol arall," ebe Mr. Luxton. "Rhaid i ni fynnu amser i edrych ar y llwyni yma."
Yr oedd yno dwrr o goed main, fel rhyw wialennau tál. Yr oeddynt tua deunaw troedfedd o hyd a dwy fodfedd ar draws, a thwrr o ddail ar eu brigau. Torrodd Mr. Luxton un ohonynt â chyllell Gareth, a daeth allan dorreth o sudd. Rhoddodd ychydig ohono ar ei dafod, a gofynnodd i'r lleill wneud yr un peth.
"O, y mae fel triagl!" ebe Myfanwy.
"Y Pren Siwgr ydyw," ebe Llew.
"Tybed a oes coffi hefyd yn y lle rhyfedd hwn?" ebe Madame.
"Y mae llaeth a siwgr gennym yn barod," ebe Gareth.
"Synnwn i ddim yn wir nad oes yma de a choffi," ebe Mr. Luxton. "Os ydynt yma, byddwn yn sicr o'u cael ryw ddiwrnod. Dyma i ni ddigon o siwgr beth bynnag."
Ac y mae yn siwgr pur," ebe Madame.
"Dim ond pethau pur a werthir yn siopau'r ynys hon," ebe Gareth.
"Nid wyt yn siwr eto mai ynys ydyw," ebe Myfanwy. "Nac ydym, a dyma ni'n anghofio ein neges eto,' ebe Mr. Luxton. "Dewch ymlaen!"
Cafodd pob un ddarn hir o'r pren siwgr i'w sugno ar y ffordd.