rhywle tua'r cyhydedd yr oeddynt. Gwyddai Mr. Luxton o leiaf hefyd fod rhai o ynysoedd y cyhydedd ymhell o fod yn ddiogel i ddynion gwynion. Diau mai un o gannoedd ynysoedd unig Môr y De oedd hon, heb neb yn byw arni wrth bob tebig. Efallai na ddeuai neb byth i'w blino yma. Ar y pryd, beth bynnag, yr oeddynt yn ddiogel, a digon o bethau ganddynt i'w cynnal.
Gwelent yr ynys yn gyfan o'r man y safent arno. Un hir, gul, ydoedd. Yn ôl barn Mr. Luxton mesurai tua phum neu chwe milltir o'r Gorllewin i'r Dwyrain, a thua tair milltir yn ei man lletaf ar draws. Yr oedd y bryn hir fel rhyw asgwrn cefn i'r ynys. Ymgodai'n raddol nes cyrraedd uchter o tua chwe chan troedfedd yn y pen dwyreiniol lle yr oeddynt hwy yn awr. Tua'r Gogledd disgynnai'n serth iawn am ychydig bellter, ac yna yn fwy graddol tuag at y traeth. Daethent hwy i fyny ar yr ochr ddeheuol. Yno ceid llethr coediog, yna gwm cul, a thuhwnt i'r cwm, fryn isel coediog, hir fel y llall, a'r môr ar ei odre. O gylch yr ynys yr oedd y lagŵn, mewn rhai mannau yn hanner milltir o led, mewn mannau eraill yn chwarter milltir a llai na hynny. Tuhwnt iddi, gwelent y rhibyn cwrel, ac oddiallan, y môr mawr. Ni allent weld y traeth, ond ychydig ohono ar ochr y Gogledd, oherwydd, er fod pen y bryn yn foel, ychydig yn îs i lawr tyfai palmwydd a choed eraill yn dew, nes cuddio'r traeth oddiwrthynt. Ni allent ychwaith weld traeth y De. Cyfodai'r bryn isel a'i goed tál rhyngddynt â hwnnw.