Tudalen:Breuddwydion Myfanwy.djvu/76

Gwirwyd y dudalen hon

XII

O ryfeddod bod yr Arglwydd wedi cadw ei drysorau
Draw ynghudd tu ôl i ddorau ynys fach ym Môr y De.
—W. J. GRUFFYDD (Ynys yr Hud).

YR OEDD yn ddydd Sul drannoeth, eu Sul cyntaf ar yr ynys. Cytunasant nad oedd gweithio i fod ar y dydd hwnnw. Yr oedd eisiau dydd o orffwys ar eu cyrff. Yr oedd hefyd eisiau iddynt dreulio ychydig amser gyda'i gilydd i feddwl am rywbeth heblaw pethau bach y bywyd hwn. Nid oedd hyn yn hollol eglur i Llew a Gareth a Myfanwy. Gan nad oedd capel nac eglwys ar yr ynys, buasai'n well ganddynt hwy fynd am daith hir eto i ryw ran arall o'r ynys, ond edrychent eisoes ar Mr. Luxton fel eu hathro a'u harweinydd, a pharchent ei orchmynion. Yr oedd Madame yn fodlon iawn wrth edrych ymlaen at ddydd o orffwys.

Yr oeddynt oll ar eu traed gyda'r wawr. Pwy allasai orwedd a haul ac awel yn galw arnynt i fwynhau'r dydd? Fel ar y ddau fore cynt aeth Mr. Luxton a'r bechgyn i un cyfeiriad a Madame a Myfanwy i gyfeiriad arall i ymolchi yn nyfroedd clir