Tudalen:Breuddwydion Myfanwy.djvu/80

Gwirwyd y dudalen hon

"Rhyw fath o bryfaid meddal fel jeli ydynt. Meddant y gallu i dynnu o'r môr ryw sylwedd calchiog sydd ynddo i wneud tai iddynt eu hunain. Pan fyddant farw, gadawant eu tai ar ôl. Dyna yw'r rhibyn yma i gyd,—tai'r creaduriaid bychain hyn wedi eu gadael yma flwyddyn ar ôl blwyddyn a chanrif ar ôl canrif.

"A ydynt yn para i'w hadeiladu, hynny yw, i fyw a marw o hyd?" ebe Llew.

"O ydynt," ebe Mr. Luxton. "Y mae godre ac ochr y rhibyn, lle mae'r tonnau'n torri, yn graig fyw, yn graig sydd yn tyfu o hyd. Y mae mor fyw ag yw planhigyn mewn gardd, ond ei bod ar raddfa îs o fywyd. Onibai ei bod yn graig fyw ac nid yn rhyw fath o garreg farw byddai tonnau'r môr wedi ei chwalu er ys llawer dydd. Adeilada'r creaduriaid yn gynt nag y dinistria'r môr."

"Onid y tonnau a dorrodd y bylchau a welsom?" ebe Llew.

"Nage," ebe Mr. Luxton. "Ceir bylchau yn y cwrel lle llifa afon i'r môr. Ni all y creaduriaid yma fyw mewn dŵr crai. Y mae bwlch bach gyferbyn â'n hafon fach ni. Y mae un mwy lle daethoch chwi, Llew, â'r cwch i mewn, er nad oes afon yno. A fedrwch chwi ddyfalu paham?""

"Efallai bod yr afon wedi newid ei chwrs yn ddiweddar," ebe Llew.

"Dyna fy marn innau," ebe Mr. Luxton. "Efallai y gwelwn ryw ddiwrnod pa le y trodd yr afon oddiar ei llwybr cyntaf."