"Ai dim ond un afon sydd yma?" ebe Myfanwy. "Dim ond un a welsom eto," ebe Llew.
"A barnu oddiwrth ffurf yr ynys a safle'r bryniau, nid wyf yn meddwl bod yma afon arall. Y mae'n amlwg i rywbeth eich arwain chwi Llew at yr unig fwlch y gallai'r cwch ddyfod trwyddo. Goreu i gyd i ni mai dim ond un bwlch sydd yma."
"Pam 'goreu i gyd' syr,?" ebe Llew.
"Yr ydym yn ddiogelach. Ni all neb ddyfod atom ond trwy'r bwlch yna.'
"Sut gall coed dyfu ar y graig a hithau'n fyw?" ebe Gareth.
"Dim ond ar ei godre y mae yn fyw. Ni all y polypifer fyw ond mewn dŵr hallt. Y mae haul ac awyr yn wenwyn iddo. Tai wedi eu gadael er ys oesau yw'r graig sydd uwch y dŵr. Y mae llawer ohonynt hyd yn hyn o'r golwg yn y dŵr, yn tyfu, tyfu, o hyd."
"Efallai mai ar graig gwrel o dan y dŵr y trawodd ein llong ni," ebe Llew.
Fel yr aent ymlaen âi'r tir yn uwch ac yn fwy creigiog. Cyfodai ambell delpyn o graig noeth heb goed arni o gwbl, Cerddai'r bechgyn a Myfanwy gyda'i gilydd, weithiau yn y dŵr ac weithiau ar y tywod poeth. Chwiliai Myfanwy am gregyn tlws. Yr oedd digonedd o rai rhyfedd o bob ffurf a lliw ar hyd y traeth. Ceid darnau hardd iawn o gwrel hefyd yma a thraw. Efallai y gellid gwneud rhaffau godidog ohonynt i Madame a hithau rywbryd. Rhedodd Gareth yn sydyn o'r dŵr a rhywbeth yn ei law, a gweiddi:—