"Mr. Luxton! Madame! Dyma lymarch! Y mae digonedd ohonynt allan fan yna yn y môr."
"Ah! Une huître," ebe Madame. "Yr wyf yn hoff iawn ohonynt."
Cynhygiodd Gareth hwn iddi. Agorodd Mr. Luxton ef â'r gyllell, ac edrych arno'n ofalus. Llyncodd Madame ef gyda blâs.
"Cesglwch ddigon i ni i gyd," ebe Mr. Luxton. "Daw Myfanwy a minnau â chnau gwyrdd o'r coed yma. Cawn bryd da o lymeirch a shampên."
Agorodd Mr. Luxton y llymeirch ei hun, a chraffodd arnynt fel o'r blaen cyn eu rhoddi i neb i'w llyncu.
"Y mae Mr. Luxton yn edrych am berlau," ebe Madame.
"Gwir, Madame," ebe Mr. Luxton. "Yn y rhan hon o'r byd, blant, ceir yn fynych iawn berl gwerthfawr o dan farf y llymarch. Y maent yn werth arian mawr. Byddai nifer fach ohonynt yn ffortiwn i ni pe baem yn byw mewn gwlad lle mae arian o ryw werth. A! Dyma un o'r diwedd, ond un bach iawn ydyw. Edrychwch!"
Yr oedd tua'r un faint â chlopa pin ac yn ddis— glair a hardd iawn. Syllent yn sýn ar y rhyfeddod newydd hwn.
"Pwy gaiff y perl cyntaf?" ebe Mr. Luxton.
"Myfanwy," ebe Madame.
"Yr wyf i'n cynnig bod Myfanwy a Madame i'w cael bob yn ail, fel y cawn hwy, beth bynnag fydd eu maint," ebe Gareth.
"Da iawn," ebe Mr. Luxton.