"Rhaid bod ynysoedd eraill heb fod ymhell oddi— yma," ebe Llew.
"Nid oes un yn y golwg," ebe Mr. Luxton.
"A oes bwlch gyferbyn â'r lle hwn?" ebe Gareth.
"Ie, dyna gwestiwn purion," ebe Mr. Luxton.
"Na, nid oes bwlch yna," ebe Llew, "Sut gallent ddyfod yma ynteu?"
"Drwy ein bwlch ni, wrth gwrs," ebe Gareth.
"O Gareth!" ebe Myfanwy.
"Onid gwell i ni gael cinio yma cyn mynd i'r cwch?" ebe Llew, ymhen ysbaid.
"Ni allaf i fwyta bwyd yn y lle hwn," ebe Madame, ac edrych ar Mr. Luxton. Gwyddai'r ddau eu bod hwy yn deall peth na ddeallai'r plant am y lle.
Fel y nesaent at ochr y dwyrain âi'r tir yn fwy a mwy creigiog. Yr oedd y rhibyn cwrel yn nes hefyd, a rhu'r môr oddiallan yn uwch, a glâs y lagŵn yn dywyllach. Syllai Gareth a Myfanwy dros ochr y cwch. Yr oedd golygfeydd rhyfeddach yn y lagŵn nag oedd ar y tir. Er ei bod mor ddwfn yr oedd y dŵr mor glir a thawel fel y gellid gweld y gwaelod. Yno yr oedd y cwrel byw yn ei ffurfiau a'i liwiau prydferthaf. Nofiai pysgod bach a mawr i fyny ac i lawr yn ddiflino. Yr oeddynt hwythau mor rhyfedd â'r cwrel yn eu ffurf a'u lliw. Dychrynai Myfanwy wrth weld maint rhai ohonynt.
Dychrynodd Gareth hefyd cyn hir. Gwaeddodd mewn cyffro—Mr.Luxton! Y mae siarc yma! ," Mi. Gwelaf ef yn eglur. O Mr. Luxton, a oes perigl?"