Tudalen:Breuddwydion Myfanwy.djvu/9

Gwirwyd y dudalen hon

BREUDDWYDION MYFANWY

RHAGAIR

YR oedd Miss Prys ar ymadael ag ysgol Brynbedw, ar ôl bod yno am ddeng mlynedd. Yr oedd tua thrigain o blant yn yr ysgol fach, a hi oedd y brif athrawes. Cofiai bob un o'r plant oedd yno yn awr yn dyfod i'r ysgol am y tro cyntaf. Yr oedd ei di- ddordeb yn ddwfn ynddynt i gyd, yn enwedig yn y plant hynaf. Beth a fyddai eu hanes yn y dyfodol? I ba le yr aent? Pa beth a wnaent o'u bywyd? Deuai hiraeth i'w chalon wrth feddwl eu gadael a cholli golwg arnynt. Ymhen wythnos arall byddai hi ymhell oddiwrthynt. Yr oedd yn mynd i briodi, ac yn mynd i fyw i un o drefi mawr Lloegr.

Un o'r dyddiau diwethaf hynny yn yr ysgol cafodd plant y safonau uchaf destun wrth fodd eu calon i ysgrifennu llythyr arno. "Y Bywyd y Carwn ei Fyw ar ôl Gadael yr Ysgol" oedd hwnnw. Cawsant awr o amser i ysgrifennu arno. Bwriadai Miss Prys gadw'r llythyrau hynny er cof am y plant.

Plant i ffarmwyr a'u gweithwyr oedd y rhan fwyaf ohonynt. Yr oedd yno hefyd blant i siopwr, saer, postman, crydd, melinydd, a phregethwr. Plant y wlad oeddynt bob un. Er hynny, yn ôl eu llythyrau,