Tudalen:Breuddwydion Myfanwy.djvu/91

Gwirwyd y dudalen hon

Ofn pysgod!" ebe Gareth. "Ni ddaw'r pysgod o'r dŵr."

"Beth pe bai'r cwch yn taro yn erbyn y creigiau sydd o'r golwg?" ebe Madame. "A beth pe baem yn mynd allan trwy'r bwlch i'r môr mawr?" ebe Myfanwy.

'Dyna rai ofnus yw merched!" ebe Gareth. "Na, nid ydym yn ofnus. Dewch, Myfanwy," ebe Madame. Rhwyfasant ymlaen nes dyfod i olwg y bwlch. Deallent erbyn hyn wrth liw'r dŵr pa le yr oedd lle bâs a pha le yr oedd creigiau. Pan ddaethant at fan cyfleus, neidiodd Llew i ben y graig a gwnaeth y cwch yn ddiogel. Yna daeth Mr. Luxton a Gareth allan, a thrwy eu help hwy, Madame a Myfanwy.

O, dyna olygfa! Teimlad rhyfedd oedd sefyll felly yn ymyl y dyfnder dig. Ond nid craig gul, beryglus oedd y rhibyn fel y tybiasai Myfanwy ei fod. Yr oedd digon o le i gerdded arno, a rhai coed a llysiau yn tyfu arno yma a thraw. Dyna hardd yr edrychai yr ynys o'r pellter hwn! Dyna liwiau gogoneddus! Pan edrychent arni gydag edmygedd, gwaeddodd Llew mewn cyffro,—

"O, beth sydd fan draw? Ai cwch ydyw?"

Atebwyd ei gwestiwn ar y funud. Cododd cynffon enfawr o'r dŵr, a chwythwyd dau bistill hir o ddŵr i'r awyr. Morfil oedd yno.

"O dir! Dewch yn ôl," ebe Myfanwy.

Chwerthin a wnaethant am ofn Myfanwy, ond yr oeddynt bob un yn barod i fynd yn ôl erbyn hyn. Mwynhasant eu swper ar ôl dydd mor gyffrous.