XIV
Ymhob llafur y mae elw. —SOLOMON.
DYWEDODD Mr. Luxton bore trannoeth bod arno awydd mynd i weld y cae tatws. "Yr oedd y rhai a gawsom neithiwr mor dda fel yr wyf yn siwr y carech gael ychwaneg," meddai.
"Carem yn wir," ebe Madame. "Cewch chwi a'r bechgyn fynd heddiw. Y mae gwaith gan Myfanwy a minnau i'w wneud yma."
"Glanhau'r tŷ,—rhwbio'r dodrefn a golchi'r lloriau!" ebe Llew.
"Beth os daw morfil i fyny o'r traeth a'ch llyncu'n fyw!" ebe Gareth.
"Beth os daw llew a'th fwyta dithau yn y goedwig!" ebe Myfanwy.
Yn y cwch yr aethant. Ni fuont yn hir cyn mynd o'r golwg heibio'r graig, a'r ddwy oedd ar ôl yn ysgwyd dwylo arnynt.
Yna aethant hwythau at eu gwaith. Yr oeddynt wedi ei drefnu ym mlaenllaw. Yr oedd i fod yn ddiwrnod golchi arnynt. Gwnaethant bwll yn yr afon tua dwylath o'r traeth. Un o gnau gwyrdd