y palmwydd wedi ei hollti oedd eu sebon. Ffroc fach ysgafn, oleu oedd gan Myfanwy. Yr oedd honno fel ei dillad eraill yn lled ddu erbyn hyn. Ni wisgasai Madame yn ei bywyd ddillad mor ddu ag oedd am dani'n awr. Yr oedd cot gan bob un o'r ddwy. Yr unig ddefnydd a wnaethent ohonynt wedi dyfod i'r ynys oedd eu plygu a gwneud gobennydd ohonynt yn y nos. Gwisgasant hwy yn awr tra golchent rai o'u dillad eraill. Wedi eu golchi, lledasant y dillad ar y traeth, a charreg ar bob cornel i'w cadw rhag mynd ymaith gyda'r awel. Cyn eu sychu'n llwyr, plygasant bob pilyn yn ofalus a rhoddi carreg fawr i fod yn bwysau ar y cwbl. Yna lledasant hwy ar y traeth drachefn i'w crasu'n dda. Ni wnaethai Madame na Myfanwy chwaith waith cyffelyb erioed o'r blaen, ond ni fuont yn fwy balch ar ddim a wnaethent yn eu bywyd. Drannoeth, gwnaeth y tri eraill yr un peth â rhai o'u dillad hwythau. Rheol yr ynys oedd fod pob un i olchi ei ddillad ei hun, hynny allan, erbyn pob bore Sul, byddai gan bob un ei ddillad glân.
Yr oedd dau newydd pwysig gan Mr. Luxton a'r bechgyn pan ddaethant yn ôl. Gwnaethent dân heb ddefnyddio matsien, a darganfuasent ogof fawr ar Draeth y De.
Methai Myfanwy â chredu iddynt fedru gwneud tân, felly dywedodd Mr. Luxton:—
"Dewch, fechgyn, gwnawn dân yn awr er mwyn rhostio tatws erbyn swper, a chaiff Myfanwy weld nad oes matsien gennym."