"Yr wyf wedi gweld yr ogof yma cyn hyn," ebe hi. "Llew, a wyt ti'n cofio fy mreuddwyd cyn i deulu'r Neuadd ddod i Frynteg, a chyn i ni feddwl am symud i Awstralia?" Gwyrodd Llew ei ben i ddangos ei fod yn cofio, a gwenodd yn drist ar Myfanwy heb ddywedyd gair.
"Yr wyf yn falchach ar yr ogof yma nag ar ddim a gawsom eto," ebe Mr. Luxton. "Os daw storm bydd gennym gysgod. Os daw gelynion bydd gennym le i ymguddio."
"Nid ydych yn bwriadu cysgu a byw yma?" ebe Gareth.
"Na, tra pery'r tywydd yma, y mae'r awyr agored yn well. Ond nid ydym yn siwr na chawn dymor o law. Byddai'r ogof yn ddefnyddiol iawn wedyn."
"Oni fyddai'n well tynnu stoc dda o ffrwythau a gwreiddiau a'u cadw yma?" ebe Madame.
"A digon o goed tân," ebe Llew.
"Gallwn adael ein harian hefyd, a'n perlau a'n holl drysorau," ebe Gareth.
"Dyma'r lle tebycaf i dŷ a welsom er ys tro," ebe Madame.
"Dyna hyfryd fyddai pe bai gennym ford chadeiriau a lle tân a thegell a thebot a llestri," ebe Myfanwy.
"Meddwl am dŷ a thân a the y mae Myfanwy o hyd," ebe Gareth.
"Rhaid i ni gael tŷ, beth bynnag am y te a'r tân," ebe Mr. Luxton. Yr wyf yn meddwl y byddai tŷ yma yn ymyl yr ogof yn gyfleus iawn. Pe deuai