gelynion atom dros y môr, trwy'r bwlch y daethom ni drwyddo y deuent. Gwelent ni felly ar unwaith ped arhosem yn yr hen wersyll. Yr ydym o'r golwg yma, ac y mae'r ogof gennym pe byddai ei heisiau arnom. Nid wyf yn meddwl y daw neb, oherwydd nid oes ynys arall yn y golwg, ond rhaid i ni beidio â bod yn ddiofal."
"Beth pe deuai llong yma a ninnau heb ei gweld?" ebe Llew.
"Credaf mai o'r ochr hon y byddai llong debycaf o ddyfod. Mae'n debig mai i lawr yna rywle mae Awstralia," ebe Mr. Luxton.
"Awstralia!" ebe Myfanwy, ac edrych allan i'r môr fel pe disgwyliai ei weld ar y gorwel.
"Efallai y daw llong o Sydney heibio yma ryw ddydd," ebe Gareth.
"Ni wyddom beth a ddigwydd," ebe Mr. Luxton, 'ond gwell i ni beidio â rhoi gormod o'n meddwl ar weld llong. Ein dyletswydd yw gwneud y goreu o'r gwaethaf lle yr ydym, a pheidio â gwastraffu ein hamser i ddisgwyl am bethau na ddeuant efallai byth i ben."
Penderfynasant ddechreu adeiladu tŷ yn ddioed. Yr oedd y cabanau a godasai Llew wedi syrthio a'u codi drachefn fwy nag unwaith. Yr oedd yn rhaid cael rhywbeth cadarnach na'r rhai hynny. Penderfynasant wneud dau gaban gweddol fawr,—un ar gyfer Madame a Myfanwy, a'r llall ar gyfer y tri dyn.
Gareth oedd уr archadeiladydd. Gwelsai ef adeiladu tai o eithin ar gyfer y "da blwyddi" yn y Neuadd.