Tudalen:Brithgofion.djvu/11

Gwirwyd y dudalen hon

Diweddarach oedd y beudai, ystabl a llofft uwch law, grisiau cerrig i fynd iddi oddi allan; beudy'r gwartheg godro, beudy'r gwartheg hysbion, cut y lloi, yr ysgubor, gyda llawr dyrnu, cowlas a thaflod—lle ardderchog i chwarae ar dywydd gwlyb ac oer—a'r hofel droliau ar fin y nant. Cutiau moch o'r neilltu.

Bu'r lle unwaith yn Hen Gartref i rywun cefnog, lle i ddyn fyw wrth ei hamdden, nid lle i gadw busnes neu gysgu noswaith. Ni allech fyw yno heb fagu chwaeth at fywyd cartrefol, tawel, pe buasai fodd, ond modd neu beidio, glynai ynoch.

Yr oedd y wlad oddiamgylch yn goediog iawn. Yr oedd dwy afon fach yn rhedeg heibio'r tŷ, un gydag ystlys y berllan a'r llall gyda gwaelod y buarth, a'r tŷ a'r beudai ar y tafod tir rhwng cydiad y ddwy. Dygai'r ddwy gerrig bychain coch, melyn a glas i'w canlyn ar lifogydd, a graean mân a fyddai'n disgleirio fel aur yng ngoleuni'r haul. Byddai ynddynt hefyd frithylliaid prydferth, a ddaliem â'n dwylo, heb dybio bod hynny'n greulonach na dyfais i ddodi bachau yn eu gyddfau.

Yr wyf yn cofio dal y brithyll cyntaf i mi ei ddal erioed. Cefais ef allan o'r dŵr, ond llithrodd o'm llaw. yn ei ôl i'r afon. Cyn hir, cefais afael arno wedyn, tan garreg. Gwesgais ef yn erbyn y garreg. Ni allodd ddianc wedyn. Yr oeddwn yn falch ofnadwy o'm gorchest, ac arnaf eisiau rhedeg i'r tŷ i'w ddangos. Gorweddai'r brithyll bach ar gledr fy llaw yn llonydd. Yr oedd yn brydferth iawn. Ac ni chwaraeai yn y dŵr byth mwy. Aeth fy malchter i ffwrdd, a theimlwn fel llofrudd. Mor ddel oedd y brithyll bach hwnnw, yn llonydd ar fy llaw. Ni wnaethai ddrwg i mi nag i neb arall. Rhoeswn unpeth am ei weld yn chwarae eilwaith yn y dŵr. Teflais ef yn ei ôl i'r afon, ac aeth y dŵr ag ef i'w ganlyn, fel darn o bren marw. Deliais bysgod wedi hynny, mi wn, ond nid wyf yn cofio dim un ohonynt, ond y brithyll bach hwnnw...

Tyfai coed o bob math o bobtu i'r ddwy afon am filltiroedd o bellter, derw ac ynn, bedw, llawrydd a rhai pinwydd a ffawydd. Haf a gaeaf, ardderchog fyddai'r coed, lle gallai un grwydro am ddyddiau a gweld rhyw ryfeddod bob tro y gwnâi hynny. Ni fedrech gyfrif y dail a'r blodau gwylltion a welech yno, a chymerai amser