i chwi adnabod yr adar a'r creaduriaid a fyddai yno. Clywech hwy o'ch gwely yn gynnar yn y bore yn canu oll gyda'i gilydd, peth rhyfeddol i'w glywed. Yn y dydd hefyd clywech hwy'n trydar, ond y seiniau a garwn yn enwedig fyddai grŵn gwenyn a chacwn a man wybed eraill. Ai'r sŵn bach hwnnw yn un â'i gilydd, megis, yn un canu tyner, pell, fel pe buasai'n dyfod o bellter yr oesau neu o fyd arall. Ar brynhawn cysglyd, mwll, yn yr haf y clywech y canu hwnnw orau. Rhaid mai nid myfi fy hun yn unig fyddai'n ei glywed fel canu o rywle arall, canys byddai pobl yn ei alw yn "ganu'r Tylwyth Teg." Ym mhen blynyddoedd, deuthum i wybod ei fod yn hysbys yn Iwerddon wrth enw tebyg, "ceol sidhe," canu'r Tylwyth Teg. Yr wyf yn cofio hefyd mai canu tyner felly fyddai'n peri i mi feddwl am bethau pell, wedi bod unwaith ac wedi darfod am byth, nes byddwn yn mynd yn drist.
Teg fyddai blodau'r gwynt yn y Coed Uchaf, a'r mwsogl o bob math ar y torlennydd. Un peth cas yn unig fyddai yno-y craf a dyfai mewn ambell fan, a'i aroglau a'r blas a rôi ar ymenyn, os cai'r gwartheg damaid ohono, yn annioddefol i rywun a âi'n agos ato, heb sôn am ei flasu. Byddai raid mynd yn nechrau haf i chwilio amdano a'i ddifa rhag blaen. Bûm agos i ddeng mlynedd ar hugain heb glywed ei aroglau ar ôl gadael yr Hen Gartref, ond adnabûm ef ar unwaith pan drawodd fy ffroen, ym mhen arall y Sir, a daeth yr "hela cra" á â rhawiau bychain a choesau hirion iddynt i'm cof fel ergyd.
Tuag adeg y cynhaeaf ŷd, gyda'r hwyr, byddai golau coch yr haul yn tywynnu'n isel gyda'r ddaear i mewn i'r coed, nes byddai eu bonau'n cochi. Ambell waith y byddai'r golau hwnnw'n dyfod, ond pan ddôi gallech weld i mewn rhyngddynt ymhell. Byddai'n gwneud i chwi feddwl am ryw adeilad mawr, na welswn ac na welais erioed ei debyg, a'r coed mwyaf fel pe baent bileri'n dal y to, a'r adeilad hwnnw wedi ei oleuo â golau coch gwan, nes bod y lle'n rhyfeddod. Cyn hir hefyd byddai dail y coed yn troi eu lliwiau, dail yr ynn fel clytiau bach o aur melyn yn yr awyr, y derw yn gymysg o goch a gwyrdd a'r ysgaw a'r drysi fel gwaed. Grawn bychain y drain gwynion, neu'r ysbyddad, fel y byddai fy nhad yn eu galw, yn gnwd fel mwclis bychain coch tywyll.