Tudalen:Brithgofion.djvu/15

Gwirwyd y dudalen hon

odditanodd a rhyw su fach isel a pharhaus, braidd yn drist, debyg i'r su a glywswn wrth Nant Rhyd yr Arian wrth ddyfod adreî wedi bod yn edrych am fy nhaid pan gladdwyd fy nain, a'i adael yntau yn y tŷ ei hun, neu'r su a glywais un noswaith wrth fynd heibio'r fynwent lle'r oedd bedd hogyn bach oedd yn chwarae gyda ni yn yr ysgol ychydig ddyddiau cyn hynny. Onid am y sŵn bach hwnnw, na chlywech mono ar ôl bod yno am dipyn, yr oedd y lle yn ddistaw iawn, fel pe buasai rywun wedi marw a'i gladdu yno. Yr oedd nodwyddau'r pîn fel carped tew ar lawr, a phob peth yn brydferth iawn, ond yn drist. Eto, 'roeddwn yn teimlo fel pe buaswn wedi bod yno rywdro o'r blaen, amser maith yn ôl. Yr oedd y lle'n gynefin ac eto'n ddieithr, fel pe buasech yn ceisio cofio rhywbeth o hyd, a hwnnw fel pe buasai'n dyfod ac wedyn yn cilio yn ei ôl yn sydyn, o hyd, o hyd, fel pe bai rywbeth pell yn digwydd yn ymyl dyn ac yntau heb allu ei weled na'i glywed...

Ryw hwyr yn nechrau'r Hydref, rhwng dau olau, fel y dywedem, ar ddôl fechan, dipyn is na'r llwybr yr oeddwn yn cerdded arno, clywais ryw sŵn tua gwaelod y ddôl, fel y tybiwn. Sŵn tebyg ydoedd ar y dechrau i sŵn lli o ddŵr yn rhedeg ar hyd gwely caregog. Yr oedd yno ffrwd felly ar waelod y ddôl, ond yr oedd honno ar y pryd wedi hen sychu, gan nad oedd glaw wedi bod ers cryn amser. Rhyw rydwst chwyrn ydoedd y sŵn erbyn hyn, fel pe buasai gannoedd o bobl yn sisial yn ddi-dor ar draws ei gilydd. Nid oedd yno ddim i'w weled yn y golau hwnnw. Codais garreg a'i thaflu tua'r lle yr oedd y sŵn. Clywais hi'n disgyn, a'r un funud, tybiais fod wyneb y ddaear yno yn neidio i'r awyr ac yn ehedeg ymaith, fel y clywsoch awel trwy goed. Euthum adref mewn syndod, canys yr oedd y peth yn rhyfeddod newydd. Cefais wybod gan fy nhad mai haid o adar drudwy oedd yno'n pigo rhyw hadau neu bryfed ac yn grydwst wrth wneud hynny.

Y mae ar gael Gywydd o waith Iolo Goch ar ffurf ymryson rhwng y bardd a'i dafod ef ei hun, a'r bardd yn edliw ei gampau drwg i'r tafod. Meddai, mewn un cwpled:—

"Dal yr wyd uwch dôl rodir
Drwy dy hun ddadl drudwy hir."