Tudalen:Brithgofion.djvu/16

Gwirwyd y dudalen hon

Ni allaswn i byth ddehongli'r cwpled hwnnw, fel y gwneuthum ym mhen blynyddoedd lawer, oni bai'r digwyddiad ar waelod y ddol fach, cyn i mi erioed glywed sôn am Iolo Goch, oedd wedi clywed yr un peth yntau. Dehonglais ambell gwpled arall o waith y beirdd Cymreig drwy gofio am rai o ryfeddodau'r Hen Gartref gynt. Yn wir, ychydig o bethau oedd mewn bywyd yn yr awyr agored nad oedd yr hen brydyddion hynny wedi sylwi arnynt yn fanwl iawn.

Yn y coed o bobtu y dysgais adnabod sŵn y gwynt meiriol a ddôi i roi terfyn ar heth hir o rew ac eira, a fyddai'n gwneud bywyd yn anghysurus. Wrth edrych yn ôl, ymddengys i mi fod pob gaeaf yn heth yr adeg honno. Byddai'r rhew a'r eira yn brydferth iawn-i edrych arnynt, ond blinech yn fuan ar eu tegwch, a byddai yntau'n edwino'n ebrwydd. Byddech yn gwrando bob dydd am sŵn y meiriolwynt. Doech i adnabod ei su leddf, garedig, a dysgech adnabod coeden yn y tywyllwch wrth y sŵn a wnâi'r meiriolwynt yn ei brigau, yn enwedig yn yr yw a'r ynn, y llarwydd a'r pîn, neu'r rhewynt creulon a ddôi i lawr drwy'r Coed Uchaf yn y Cwm. Clywech ei ru dwfn ym mhellter y coed, a'i wich droellog, chwipiog, pan neidiai i'r llannerch fwy agored, led cae bychan o'r coedydd gyda'r afon, fel pe buasai ef yn crino yn y llwyni eithin a'r celyn, a hyd yn oed yntau'n gorfod gweiddi gan boen wrth fynd trwy eu pigau, cyn cael gafael ar y Coed Isaf, yng nghyfeiriad y môr, a throi i arthio a rhuo eilwaith ym mrigau'r derw a'r gwern, a suo yn y ffynidwydd bon- goch oedd yno.

Hyd yn oed pan fyddai'r rhewynt yn anghysuro bywyd, byddai yn y Coed Uchaf gilfechydd lle byddai'r awyr yn dawel a chwithau'n teimlo'n gynnes unwaith eto, a'r hen weithiwr diwyd, Tomos Dafydd, wrthi ar ddyddiau'r heth yn cymysgu pastai-pridd talar a thail (neu dom) buarth-ar waelod "Cae'r Ceirch Bach," am fod yno gysgod da rhag y rhewynt, a'r adar drudwy, neu adar yr eira fel y gelwid hwy gan rai, yn heidio yno i chwilio am bryfyn ym mhen pellaf y domen, a bron-goch bach dof, cyfeillgar, o gwmpas traed dyn, ar yr un perwyl. Cofiaf fynd yno fy hun ryw brynhawn i geisio cael fy ngwres, drwy ymguro (curo'r breichiau y naill dros fon ysgwydd y llall), a cheibio bob yn ail, nes dôi'r gwaed