II.
HEN GYFEILLION.
AM y rheswm nad oedd blant yn byw yn agos iawn atom, cŵn oedd fy nghyfeillion cynaraf. Ac fel y dywedodd rhywun, po fwyaf a wn innau am ddynion, gorau yn y byd gennyf gŵn. Nid wyf yn cofio Pero, a fu farw pan oeddwn yn fychan iawn, ond clywais gymaint o'i hanes fel y mae'n ddiogel gennyf ei fod ef yn gyfaill i mi. Pan fyddwn yn crio yn y crud, yn ôl tystiolaeth fy rhieni, os byddai Pero o fewn ergyd clyw, doi i'r tŷ ar garlam, rhôi gusan i mi a siglai'r crud â'i bawen.
Ychydig o gŵn a welais yn fy nydd na byddent yn gyfeillion i mi, ac y mae'n ddiau gennyf mai rhywbeth a wnaethwn fy hun fyddai reswm ambell gi a fyddai'n f'amau ar dro. Bûm yn crwydro rhosydd a choedydd gyda hwy, gwelais hwy'n gwneud pethau anhygoel, dysgais lawer oddiwrthynt. Buont anrhydeddus a ffyddlon. "Tangno" (neu "Tango ") oedd enw'r cyntaf yr wyf yn ei gofio. Etifeddodd hen enw ymhlith ei hynafiaid, ond odid. Tybid mai ystyr yr enw gynt oedd y byddai cnoad cŵn o'r enw hwnnw yn llosgi fel tân. Ni wn ai gwir hynny ai peidio. Ni'm brathodd Tango erioed. Llyfodd a gwellhaodd ambell ddolur arall i mi, heb i mi ofyn iddo.
Chwaraeai gyda mi drwy'r dydd, oni byddai ryw orchwyl arall yn galw amdano. Dysgais ef i chwarae mig ymguddio. Eisteddai tra byddwn i'n mynd. Pan awn o'r golwg a galw, dôi yntau ar ei union ar f'ôl a'i drwyn gyda'r ddaear, a neidiai a chyfarthai pan gâi hyd i mi, a châi gymaint o hwyl â phe buasai heb fy ngweld ers deuddydd. Yna cuddiwn fy nghap. Ai yntau ar ei ôl yn y fan a dôi ag ef yn ei geg yn union deg. Nid oeddwn yn deall eto pam y byddai'n mynd â'i drwyn gyda'r llawr, ond esboniodd Tomos Dafydd i mi. "Creadur rhyfedd ydi ci," meddai, "yn gweld â'i drwyn ac yn chwerthin â'i gynffon." Crwydrwn gyda Thango drwy'r Coed, a dôi yntau â chwningen i mi, neu lygoden, a'u gollwng wrth fy nhraed. Yr wyf yn siŵr ei fod wedi sylwi, er fy mod yn mynd â'r cwningod adref, na chymerwn i mo'r llygod, canys ni ddôi â hwy mor aml.