Tudalen:Brithgofion.djvu/20

Gwirwyd y dudalen hon

Un diwrnod, yr oeddym wedi mynd i'r ffridd am dro, ac yntau'n swlffa ac yn prowla ymhlith y twmpathau eithin. Sylwais ei fod yn gloff ac yn cerdded ar ei drithroed yn aml. Gelwais arno ac edrych ei bawen. Pigyn draenen ddu oedd wedi mynd i'w grafanc. "Waw!" meddai Tango wrth i mi geisio tynnu'r pigyn. Cefais ef allan yn y man, a llyfodd yntau ei droed. Pan gâi bigyn ar ôl hynny, dôi ataf a chodi ei bawen i mi, a dioddefai 'n ddistaw tra byddwn yn ei drin iddo. O! y ffydd fyddai ganddo ynof!

Talodd Tango'r pwyth i mi un diwrnod yn yr haf. Yr oeddwn wedi mynd i lawr at lan yr afon oedd yn rhedeg heibio'r tŷ, ac wedi sylwi bod y dŵr yno wedi cario pridd a gro ymaith nes bod lle gwag yn mynd i mewn i'r ddaear fel ogof, a gwraidd y coed a dyfai yno yn dorchau uwch ben a chydag ymyl yr agen. Ymwthiais i mewn i edrych pa beth oedd yno. Yr oedd hi'n dywyll yno, a neidiodd llygoden ddŵr heibio i mi gan ddisgyn i'r afon, nes bod y sŵn fel pe bai carreg yn disgyn i'r dŵr. Cefais fraw a chilio yn f'ôl yn sydyn. Bachodd fy nhroed yng ngwreiddiau'r coed ar yr ymyl, ac i lawr â mi nes bod fy mhen tan ddŵr yn y llyn islaw. Ni allwn gael fy nhraed yn rhydd na chael f'anadl. Yn sydyn, dyma gyfarthiad a sŵn Tango yn ymgladdu yn y llyn yn f'ymyl. Y funud nesaf disgynnais innau yn fy nghrynswth i'r llyn, a llusgodd Tango fi i'r lan. Ffroenodd o'm cwmpas a llyfodd f' wyneb. Daeth hynny â mi ataf fy hun. Medrais godi ar fy nhroed a chydio yng ngholer Tango. Tynnodd yntau fi i fyny i'r berllan. Cafodd Tango anwes mawr y diwrnod hwnnw gan bawb. Os byth yr awn yn agos i'r afon wedyn ag yntau gyda mi, byddai Tango rhyngof a'r ymyl ac yn fy ngwthio oddiwrthi ei orau glas. Wylais yn chwerw pan fu Tango farw. Tango!...

Bu i mi lawer o gyfeillion tebyg o dro i dro, Pero II, Sam, Twrc a Mac yn eu plith, pob un ohonynt yn greaduriaid ardderchog. Gyda hwy treuliais ddyddiau eang yn yr heulwen, yn rhydd megis na bûm byth mwy. Un haf poeth, yn ddiweddarach ar f'oes, pan oeddwn yn glaf ac yn gorfod bod allan tan yr awyr gymaint ag a allwn, gan feddwl yn hiraethus am y dyddiau eang gynt a'm hen gyfeillion, y cŵn, a meddwl fy mod innau,