Tudalen:Brithgofion.djvu/27

Gwirwyd y dudalen hon

dafadennau oll wedi clirio! Byddai hen wragedd, yn enwedig, yn troi ceiniog o wneud trwyth ac eli o ddail a llysiau at bob math o anhwylderau, a phobl yn dywedyd ar eu gair hwythau y byddai'r drwyth neu'r eli yn well nag un moddion meddyg a gaech byth yn unman. Cof gennyf y byddai gweithwyr yn clymu darn o edau wlân am yr arddwrn pan fyddent wedi niweidio'r gewynnau drwy godi pwysau neu rywbeth felly, ond ni chlywais sôn yno, hyd yr wyf yn cofio, am driniaeth yr edau wlân at wella clefyd y galon neu'r clefyd melyn. Credid fod ambell un yn gallu gwella'r " Tân Iddew" a'r "Eryr " drwy chwythu arnynt. Yr esboniad ar y ddawn honno oedd bod rhai o hynafiaid y personau hynny wedi bod yn bwyta cig eryr gynt. Gwisgai llawer o ferched ac nid ychydig o feibion fodrwyau bychain yn eu clustiau, gan ddywedyd, o leiaf, fod hynny'n beth da at y golwg. Byddai hefyd bethau i'w cario er mwyn lwc neu rhag anlwc. Efallai, yn wir, fod y syniad am addurn yn cyfrif am y pethau hyn yn hytrach na'r syniad am swyn. Cof gennyf hefyd sylwi ar fwy nag un hen ŵr a fyddai, pan eisteddent yn y capel, yn tynnu llaw ar draws y talcen ac yna o'r talcen i lawr ar hyd yr wyneb, gweddill diymwybod arwydd y Grog, ond odid.

Am ddifyrrwch cymdeithasol, ychydig a geid ohono, ar wahan i gynnull ynghyd yn nhai ei gilydd gyda'r nos i drin y byd, fel y dywedid, adrodd ystraeon a chanu. Esgyrn ystraeon, yn hytrach nag ystraeon a ffurf osodedig arnynt a geid yn yr ardal, fel bron ym mhobman arall yng Nghymru erbyn hynny. Am y canu, er nad oedd y corau a'r cystadlu a ddaeth wedyn yn gyffredin drwy'r wlad tua'r adeg honno, eto wedi dechrau yno, byddai cantorion â lleisiau da yn gyffredin iawn, a chyd-ganu yn aml, ambell un â llais bas neu denor da yn gymeradwy iawn. Cenid baledi, cerddi, tonau cynulleidfaol ac ambell hen gainc werin a genid yn y tafarnau cyn dyfod y diwygiadau dirwest, yn ddiau. Dyma bennill o hen gerdd yfed nas clywais yn unman arall:—