Tudalen:Brithgofion.djvu/29

Gwirwyd y dudalen hon

gweled, bechgyn a genethod yn eu canlyn yn llinyn, a Gŵyr Harlech" neu'r "Conquering Hero" yn peri i'r hogiau feddwl am y dydd y byddai ganddynt hwythau gyrn pres a dillad fel dillad sowldiwr. Ciniawai'r Clwb yn y "Red Lion" a chwaraeai'r band yn yr heol o flaen y tŷ hyd nes bod y cinio'n barod. Yn y prynhawn byddai gorymdaith arall cyn chwalu o aelodau'r Clwb. Clywid am un band yn dychwelyd un tro, ar ôl cinio da a llawen, i'r lle y byddid yn gwahanu. Yr oedd y ffordd yn fforchi dipyn o'r pentref. Aeth y tabyrddwr yn ei flaen i'r chwith a'r band i'r dde. Yn y man daeth rhywun i gyfarfod â'r tabyrddwr, a gweiddi arno, Hai! mae'r band ar y ffordd arall!" "Waeth gen i," meddai dyn y drwm, gan ddal ati â'i holl egni, " rwy'n medru' Gwŷr Harlech cyn geni'r un ohonyn nhw!"

Dyma'r unig gerddoriaeth offerynnol a glywid yn y pentref yn y dyddiau hynny, onid y chwibanogl, yr ysturmant (giwgaw mewn rhannau o Gymru) a'r consartina. Cymerai ambell Syrcws fantais ar achlysur o dro i dro i fwrw diwrnod yn y pentref ar y ffordd i un o'r trefi mwy, a byddai'n eu canlyn rai â "stondingau " ganddynt, yn gwerthu mân bethau, a dynion yn "llyncu- procer," cnoi carth gan chwythu colofnau o fwg o'u safnau a thynnu allan ohonynt rubanau papur o bob lliw. Yntau'r "band undyn," consertina rhwng ei ddwylo, drwm ar ei gefn, a weithiai â'i droed, clychau ar ei helm a'r cwbl yn myned yn rhyfeddol; ac ambell faledwr of Gymro hen ffasiwn yn canu cerddi o'i waith ei hun neu eraill. Yno y gwelais Abel Jones, "Bardd Crwst," am y tro cyntaf. Dyn dros ei ganol oed, efallai, heb fod yn dal ac yn hytrach yn dew. Wyneb llyfn ac esgus o farf felynwen, blewyn neu ddau yma ac acw, megis. Spectol â gwydrau crynion. Het ffelt galed, ddu, wedi dechrau troi'n wyrdd, ag iddi gorun go uchel, yn tueddu at fynd yn bigfain. Tolc ynddi ar un ochr. Gwasgod lewys, braidd yn llac amdano. Côt yn cyrraedd dipyn yn is na'r wasgod, honno hefyd yn llac a phocedau anferth o bobtu, lle cariai eu gerddi, wedi ei printio yn Llanrwst neu Gonwy. Cerddai'n araf tan ganu "Yr eneth gadd ei gwrthod," dyweder, a gwerthu'r baledi yr un pryd.