chlywed yn aml. Ni welais moni mewn argraff nac ysgrifen erioed, ac nid arhosodd ar y cof onid yn unig ddarn o'r byrdwn. Dyma fo:-
Rhywun mewn oed fyddai'n canu'r penillion, a'r plant yn cael hwyl fawr ar y byrdwn.
Gweai'r merched hosanau i'w gwisgo gan y teulu ac i'w gwerthu i eraill. Cof gennyf am un hen wraig a fyddai'n gweu drwy gydol y dydd yn y gornel wrth y tân, a Beibl agored o'i blaen. Ni wn i ba sawl gwaith yr oedd hi, meddai, wedi darllen y llyfr hwnnw drwyddo a gweu hosanau i weision ffermwyr ar yr un pryd. Ac yr oedd hi'n iach ac yn hapus yn ei henaint, heb grychyn ar ei grudd. Byddai'n arfer gan deuluoedd ddanfon eu merched at ryw "wniadrag " neu gilydd i ddysgu torri deunydd, gwnio a gwneud dillad isaf iddynt eu hunain ac eraill. Ni welais neb yn nyddu yn f'amser i, er y gwelech hen droellau mewn llawer tŷ.
Yn y cynhaeaf gwair ac ŷd ac wrth godi a phlannu tatws, cymerai'r merched a'r plant ran. Yr wyf yn cofio un wraig drigain oed o leiaf, a fyddai yn y fedel gyda'i gŵr, oedd ben medelwr, wrthi drwy'r dydd yn medi gwenith â'r cryman taro, nid â'r sicl, oedd eisoes wedi mynd o arfer. "Ysbaena" oedd ein gair ni yr adeg honno am dorri gwenith â'r cryman taro, ond byddai sôn am ddyrn-fedi" â'r sicl, cryman blaenfain a phlygiad go gaead ynddo a mân ddannedd ar du'r min at dorri'r gwellt bob yn ddyrnaid drwy dynnu, nid taro; gorchwyl caled, blin, er nad oedd yr ysbaena nemor ysgafnach i'r cefn ychwaith.
Felly yr âi gwaith blwyddyn ymlaen ymhlith gweithwyr. Bychan fyddai'r cyflog, ond câi'r gweithwyr le i blannu tatws am ddim gan y ffermwyr, a llaeth enwyn heb ddim ond gyrru i'w ymofyn. Cofiaf un dyn dall a ddôi o'r pentref i'm cartref bob diwrnod corddi i gyrchu llaeth. Dôi ar hyd llwybrau a chroesai un bont bren dros afon, heb un tramgwydd. Sonnid am y neb na wnâi gymwynasau fel hyn ag eraill fel "hen gribin" gan