Tudalen:Brithgofion.djvu/35

Gwirwyd y dudalen hon

IV.

YR YSGOL.

YSGOL EGLWYSIG yn y wlad oedd y gyntaf y bûm ynddi. Ymladd noeth oedd yn digwydd fynychaf yno, canys dôi bechgyn o ddau neu dri phlwyf iddi. Byddai yno hogiau cryfion, tua deunaw oed, wedi dyfod i "ddysgu tipyn o Saesneg." Prin y dysgid dim yno, canys nid oedd. yno ronyn o ddisgyblaeth. Ni chosbid neb am siarad Cymraeg yno, am y rheswm, yn ddiamau, na feiddiai'r athro ei hun ddim cynnig gwneud y fath beth tra byddai'r bechgyn cryfion yno-un bach go eiddil ydoedd ef, a thipyn o brydydd Cymraeg hefyd.

Deuai'r plant â thamaid canol dydd i'w canlyn, a bwytaent hynny fyddai'n weddill ar y ffordd adref. Cof gennyf am ddau frawd yn bwyta bara wedi hen sychu. Cymerodd yr hynaf un darn a rhoes ddau i'r ieuengaf. Penderfynodd hwnnw na allai ef byth gnoi cymaint o beth mor ddiflas.

Fedra i ddim bwyta'r ddau," meddai, "cymer di hwn."

"Na," meddai'r hynaf, "ddeuda i iti be 'nei di. Cymer un ym mhob llaw a thamed bob yn ail. Fydd yna ddim gormod iti felly."

Gwnaeth y bychan felly a daeth drwyddi'n llwyddiannus. Ni allaf gofio dim arall a barodd i mi chwerthin tra bûm yn yr ysgol honno, ond ni bu hynny ddim yn hir. Rhoeswn fy nghas arni o'r dechrau. Nodid hi gan deulu wedi gwneud arian rywsut, a dysgid y plant i gapio a gostwng garrau iddynt. Gwnaent hynny'n ufudd ac yn ddistaw, ond ymhlith ei gilydd byddent greulon at rai gweiniaid, a llysenwent rai â rhyw anaf arnynt, rhai na fedrent ymdaro drostynt eu hunain. Yr oedd yno un eneth fechan o gorff, rhyw dipyn o gloffni arni a'i llygaid yn weiniaid. Byddai ganddynt lysenw cas arni, tynnent ei gwallt ac ni chadwai neb chwarae teg iddi, ond dau fab i weithiwr y byddwn i'n cael fy nghinio yn eu cartref. Dyn da iawn oedd tad y ddau hynny ac yr oedd ei natur yn ei feibion, dau ddiniwed ddigon, ond dewr yn y bôn. Un tro cafodd y ddau frawd a minnau gurfa go dost am gadw chwarae teg i'r fechan pan oedd yn crio'n arw am rywbeth a wnaethid iddi. Caseais y lle yn aruthr, a byddai'r ddau frawd a minnau'n "chwara triwal" yn