aml yn lle mynd' yno. Ni wn i ddim beth oedd yn cyfrif am arferion y plant hynny, onid diffyg disgyblaeth gan na rhieni nac athrawon.
Yr oedd dwy ysgol yn y pentref, fel y dywedwyd eisoes, a chyn hir danfonwyd fi i'r Ysgol Fwrdd yno. Y bore cyntaf yr euthum i'r ysgol honno, dodwyd fi i sefyll ar fy nhraed ar fainc am siarad Cymraeg, gyda chennad i fynd i lawr os achwynwn ar rywun arall a droseddai drwy wneud yr un peth. Yr oeddwn wedi fy nysgu erioed mai peth salw oedd achwyn ar eraill am beth a wnaech eich hun, ac er i mi glywed plant yn siarad Cymraeg tan eu llais ag eraill, ar y fainc y bûm drwy'r bore. Cyn ein gollwng allan ganol dydd, dyma'r Meistr yn dyfod a chansen yn ei law ac yn peri i mi ddal fy llaw allan. Fy awydd oedd gwrthod, ond deliais fy llaw, braidd yn ofnog. Heb fwriadu hynny, efallai, trawodd fi ar fön fy mawd a pheri loes i mi. Rhwng y loes a'r sarhaed, ofnaf i mi golli fy nhymer ac yn fy ngwylltineb anelais gic ato. Wrth ysgoi, maglodd yntau ar draws cadair ac aeth i lawr. Ni wn yn iawn ba amcan oedd gennyf wedyn, ond neidiais oddiar y fainc. Y tebyg yw ei fod ef wedi deall ei fod wedi achosi mwy o boen i mi nag oedd ddyledus. Ni chefais ragor o gosb, beth bynnag, y bore hwnnw. Pan euthum adref gyda'r hwyr dywedais nad awn i byth i'r ysgol honno wedyn. "Pam?" meddai fy nhad. Dywedais innau'r hanes, gan deimlo mai neidio o'r babell ffrio i'r tân fu'r newid ysgol. "O," meddai yntau, dyna'r cwbl. Ni wn yn iawn beth a ddigwyddodd, ond ni chosbwyd neb am siarad Cymraeg yno wedyn.
Nid oedd nemor ddisgyblaeth yn yr ysgol honno chwaith, ond pan fyddai'r Meistr i mewn. Pan fyddai ef allan—a byddai yn bur aml—byddai'n fedlam wyllt. Byddai un disgybl-athro yn gosod dau hogyn i ymladd, a byddai yno sŵn byddarol. Dôi'r Meistr i mewn yn ddiddisgwyl. Byddai'r hogyn fyddai'n gwylio wrth y ffenestr wedi esgeuluso'i ddyletswydd. Distawrwydd sydyn. Ai'r Meistr at ei ddesg, tynnai gansen arbennig allan. Dechreuai yn y pen nesaf i ddrws yr ysgol a rhôi gurfa i bob bachgen a geneth yn ddiwahaniaeth. Un tro, pan oedd ef wrthi yn y pen arall, a'r genethod i gyd yn crio, a hogyn go gryf yn gwrthod tynnu ei law o'i boced, dihangodd y rhan fwyaf o'r plant allan o'r ysgol. Yr oedd hynny yn yr haf, yn tynnu at amser y gwyliau. Pan