Tudalen:Brithgofion.djvu/38

Gwirwyd y dudalen hon

y ddwy ysgol, heb un achos arbennig ar eu rhan hwy eu hunain, ond bod uchel awdurdodau milwrol y deyrnas, gan ofni mwy nag arfer, yn teimlo bod ysbryd rhyfelgar y bobl wedi mynd yn o isel, ac o'r herwydd wedi penderfynu danfon milwyr yn holl ogoniant gwisgoedd eu swydd ar ymdaith drwy ddarn gwlad i geisio gwella tipyn ar bethau, fel yn y dyddiau gynt a fu, cyn i boblach ddechrau sôn am bethau tu hwnt i'w cyfiawn derfynau. Ni wn i beth fu'r effaith ar bobl mewn oed, ond atebodd yr hogiau yn ebrwydd i'r apêl. Milwyr oeddynt i gyd, rhai wedi cael capiau bychain crynion am eu pennau a strapiau lledr am eu canolau, wedi gwneud cleddyfau pren i'w dwyn wrth eu cluniau a dysgu gweiddi'n groch, cerdded yn sythion, sefyll yn sydyn gan glecian traed yn erbyn ei gilydd a dodi llaw wrth gap yn odidog dros ben. Yr oeddym wedi gweled esgus ymladd ar barc coediog yn ymyl y pentref nesaf, ac nid oedd gamp na wyddai'r penaethiaid sut i'w gwneud ar faes y gad, disgyn ar lawr, codi eilwaith, rhedeg ymlaen, disgyn drachefn, codi ar ben glin a disgwyl y gelyn gyda bidog yn barod ar flaen. pob llafn o bren a wasanaethai fel gwn yn nydd y perygl cenedlaethol hwnnw.

Un diwrnod, fel yr oedd cwmni o'r milwyr yn gwylio ar ymyl y ceunant, darganfuwyd gelyn yn ymguddio mewn lle cadarn tan y ddaear. Rhai bychain o gorffolaeth oeddynt, yn gwisgo melyn a lleiniau duon ar ei draws, nid anhebyg i wisg cacwn brithion. Tyngodd y Capten yn enw rhai o'i dduwiau fod yn rhaid difa'r nythle hwnnw rhag blaen. Galwyd am fechgyn y "lliw glas" yn barod. at rwbio'r clwyfau â'r lliw hwnnw y byddai mamau'r milwyr yn ei ddefnyddio at sythu coleri'r bechgyn erbyn y Sul-bychan a wyddai'r mamau beth a ddaethai o'r "lliw glas" a fyddai'n barod ganddynt, wedi ei rwymo mewn darn o liain at wasanaeth diwrnod golchi!

Pan gafwyd pethau'n barod, galwodd y Capten yn groch am ymdaith yn chwyrn tuag ymguddfa'r gelyn tan y ddaear. Ac ymlaen â'r gad. Safwyd o flaen y clawdd lle'r oedd y gelyn hwnnw yn llochesu. Nid oedd dim i'w weled, ond gwyddai'r sgowtiaid lle'r oedd y twll. Cynhyrfodd y Capten. Tyngodd eilwaith yn enw un o'i dduwiau a cherddodd yn hy dros "dir neb" a'i wŷr yn ei ganlyn. Codwyd cri a dechreuodd y waldio (curo) yn y fan. Ni ddeuai sŵn y gelyn i'r clyw, ond deallwyd yn