fuan fod y cnafon ymhell o flaen yr oes yn eu dyfais, ac mai yn yr awyr yr oeddynt hwy'n ymladd. Tyngodd y Capten eto yn greulon nad oedd waeth ganddo ef am un o'u dyfeisiau. Gyda hynny dyma waedd, a dau neu dri milwr yn rhwbio coes neu fraich ac yn llefain gan boen. "Lliw glas!" meddai'r Capten yn groch, a rhuthrodd y cymorth cyntaf at y clwyfedigion. Yr oedd yno yn fuan fwy o waith i'r cymorth glas nag yr oedd modd i'w roi, ond daliodd y Capten ati yn ffyrnig ar ochr y "clawdd gwernin," chwedl "y Gododdin" gynt, gan weiddi a waldio yn aruthr. Ond amlhau yr oedd y clwyfedigion fwyfwy. Yr oedd yno gannoedd o'r gelynion yn dylifo allan o'r twll, ac o'r diwedd, bu raid i'r Capten dewr ildio rhag cwmwl o'r gelyn oedd yn gwichian o gwmpas ei ben. Rhwbiai ei wyneb, ei ddwylo a'i goesau, a bu raid iddo gilio o'r diwedd o'r gad anghyfartal honno, wedi dangos dewrder mawr, yn ddiamau. Gyrrodd y gelyn cyfrwys ffo ar y dewrion hynny, ciliasant hwythau a'u migyrnau yn eu llygaid, y lliw glas wedi hen ddarfod, a'r gelyn fel cwmwl yn yr awyr ar eu holau, yn grwnan a gwichian yn flin uwch ben.
Felly y darfu'r cyrch anffodus hwnnw, a dechreuodd y rhyfel o ddifrif. Cymerwyd cyngor wedi hyn, a chytunwyd bod yn rhaid newid dulliau, ac ymladd mewn dulliau mwy dealladwy. Trefnwyd dwy fyddin o'r diwedd. Yr oedd un fyddin, bechgyn yr Ysgol Fwrdd, i ddisgyn o Ben y Bryn a chroesi Llawr y Pentref, a bechgyn yr Ysgol arall i'w hatal. Ganol dydd y byddai'r brwydro, a thrachefn yn yr hwyr, ond byddem ni, hogiau'r wlad, wedi mynd adref erbyn hynny, gan mwyaf. Parhaodd yr ymladd, mwy neu lai rheolaidd, am rai dyddiau, ond daliai'r fyddin oedd yn rhwystro'r gelyn rhag croesi'r afon ei thir yn gyndyn. Yr oedd ganddynt gysgod da ynghanol y llwyni drain ac eithin yr ochr draw. Codwyd cri yn fuan fod byddin yr amddiffyn yn torri rheolau rhyfel drwy ddefnyddio'r catapwlt ("sling" oedd enw'r erfyn peryglus hwnnw gennym ni yr adeg honno). Yr oedd amryw o'r fyddin ymosod wedi cael doluriau difrif drwy eu taro â cherrig. Yn ôl arfer gwledydd cyfrifol, mynnodd y fyddin ymosod hithau stoc o'r catapyltiau rhag blaen, ni wn i ddim ai gan y cwmni anturiaethus a wnaethai'r lleill ai peidio. Ond dal eu tir yr oedd ochr yr amddiffyn o hyd.