Tudalen:Brithgofion.djvu/45

Gwirwyd y dudalen hon

i ffermwr, megis colli ceffyl, arddai ei gymdogion ei dir llafur iddo, peth a wnaent hefyd, yn wir, i rywun fyddai ar ôl gyda'r gwaith, beth bynnag fyddai'r achos. Yr oedd yr hen gymdeithas honno'n maddau mân wendidau yn rhwydd—gweddillion hen draddodiad pobl yn gwneud bywoliaeth yn hytrach na bod yn "effeithiol," mae'n siŵr.

Ychydig wyliau cyhoeddus a gedwid yn yr ardal— cymerai pawb ei ryddid pan allai ei gael. "'Rwyt ti'n ennill mwy nag yr ydw i," meddai fy mrawd wrthyf ryw dro, "ond 'does neb ar y ddaear, cofia di, feder ddwedyd wrthyf na chawn i ddim mynd i'r lle mynnwy pan fynnwy. Dyna fraint bod yn saer clobos, 'machgen i!" Gwir. "Rhoi diwrnod i'r brenin" y gelwid segura neu ei chymryd yn ysgafn am ddiwrnod. "Mynd i rodio" fyddai'r term am gymryd seibiant oddicartref, neu fynd i weld tipyn ar y byd, pan ellid fforddio hynny. Byddai mynd i ymweled â pherthynasau neu hen gyfeillion ar ddydd neu ddyddiau rhyddion yn beth cyffredin, a cherddid ymhell ar y perwyl hwnnw, neu farchogaeth os byddai ceffyl i'w gael. Byddai ymlyniad wrth deulu yn gryf yn yr ardal, a dôi perthynasau o bell ffordd i edrych am eu ceraint. Cofiaf y dôi dau gefnder i'm tad o gryn bellter ar droed neu ar farch, heb rybudd yn y byd, i'm cartref i. Gwasanaethai un march rhwng y ddau. Cychwynai un ar gefn y march a'r llall ar ei draed. Wedi teithio rhyw ddwy filltir, rhwymai'r marchog ei geffyl wrth bost llidiart ar ochr y ffordd a cherddai yn ei flaen. Pan gyrhaeddai'r cerddwr at y march, i'r cyfrwy ag yntau a marchogaeth nes dal y cyntaf. Ac felly ymlaen hyd ben y daith o ugain neu ddeng milltir ar hugain. Byddai cerddwyr adnabyddus, na byddai cerdded deugain milltir mewn diwrnod yn ddim ganddynt.

Sonnid am y Nadolig fel "Y Gwyliau," ond mewn gwirionedd, byddai Calan Gaeaf a Chalan Ionawr yn llawer mwy o ŵyl na'r Nadolig, am ryw reswm. Ar Galan Gaeaf (a elwid "Glan Gaeaf" yn gyffredin ar leferydd), byddai coelcerthi a llawer o hen chwaraeon a hen goelion, wedi colli llawer o'u hystyr a'u grym, yn gyffredin iawn. Yr un modd ar Galan Ionawr, ond hawdd gweled mai ynglŷn â Chalan Gaeaf, dechrau'r flwyddyn yn ôl hen galendr y Celtiaid, yr oedd mwyaf o