Tudalen:Brithgofion.djvu/47

Gwirwyd y dudalen hon

VI.

CREFYDD.

HYD yr wyf yn cofio, byddai cymdogaeth weddol dda rhwng yr Ymneilltuwyr a'i gilydd yn gyffredin, er na byddent yn cytuno gan bwy yr oedd y gweddïwyr a'r pregethwyr gorau, a bod pobl y naill enwad yn sôn amdanynt eu hunain bob amser fel "Ni" a'r lleill fel "Nhw." Adroddent ryw hen rigymau digrif am ei gilydd, yn enwedig y plant. Dyma ddarnau a arhosodd yn y cof:—

"Baptys y dŵr
Yn meddwl yn siŵr
'Deith neb i'r nefoedd
Ond y nhw."

"Methodistiaid, pobol gas,
Mynd i'r capel heb ddim gras,
Gosod seti i'r bobol fawr,
Pobol dlodion, eista ar lawr."

"Sentars sychion, be na bw,
Neb yn gwybod ond y nhw;
Ffraeo â'i gilydd ac â phawb,
Byd o'i go rhwng brawd a brawd."

"Wesle wyllt
Ar ben y gwrych
Yn watshio mellt a thrana."

"Eglwys Loegar, uwch na neb
Lediaith neis a phletio ceg;
Person plwy a Sgwiar sgwat,
Gnewch y tro os tynnwch gap."

Rhwng difrif a chwarae, mi gredaf, yr adroddid pethau fel hyn gan yr Ymneilltuwyr am ei gilydd, oni bai ryw helynt waeth nag arfer. Yr wyf yn cofio'r sôn a fu pan ddaeth hen ŵr boneddig o'r gorau fu 'rioed yn