weinidog i'r Bedyddwyr yn yr ardal, ac y cafwyd lle iddo. aros dros dro yn fy nghartref, hyd oni cheid tŷ cymwys iddo. Tybiai pobl, rhai oedd, y mae'n sicr, yn cofio mwy o anghytundeb nag oedd i'w gael bellach, fod yn rhyfedd bod fy nhad, ag yntau'n Fethodist, mor gyfeillgar â hynny, a bod yr hen wr bonheddig mor rhydd. Cof da am yr hen ŵr caredig, na bu ei ryddach erioed. Cefais amryw lyfrau ganddo, a hoffwn gael mynd gyda'm tad i'w ystafell, pan fyddai fy mam heb fod yn y tŷ gyda'r nos, i glywed yr ymddiddan rhwng y ddau. Yno hefyd y gwelais Bedr Hir gyntaf, a hen ŵr barfog a ddaethai i edrych am yr hen weinidog. Deuthum i wybod wedyn mai Cynddelw oedd hwnnw.
Go ddrwg fyddai hi y pryd hwnnw rhwng Capel ac Eglwys, yn enwedig ar adeg "lecsiwn" a phethau felly. Cof gennyf glywed fy nhad—wedi i mi gyrraedd "oedran cyfrifol"—yn dywedyd ei fod yn mynd adref o gyfarfod gweddi un noswaith, yn y gwyll, pryd yr aeth ar draws rhywun oedd ar ei hyd ar lawr wrth lidiard cae yn perthyn i offeiriad y plwyf. Erbyn edrych, pwy oedd yno ond gŵr o weithiwr, gwrandawr cyson gydag un o'r enwadau. Wedi meddwi yr oedd, druan, dyna ei wendid ar dro, ac wedi syrthio a chysgu ar lawr wrth y llidiard. Cododd fy nhad ef ar ei draed, a dywedyd wrtho fod yn ddrwg ganddo ei weled felly.
O, Mister Jones, chi sydd 'na," meddai yntau. Wel, ie, ddylaswn i ddim bod fel hyn, mae'n wir. A chysgu wrth lidiard yr hen berson 'na, o bob man yn y byd, ontê! Mi fydda i yn gweld yr Hollalluog yn gall ac yn dda iawn wrth ddynion fel yr ydan ni, ontê, ond fedra i ddim dallt, welwch chi, pam y mae o'n diodda rhyw hen stiwardiaid fel 'na o tano chwaith!"
Y cof cyntaf sy gennyf am y Capel yw mynd yno gyda'm tad, ambell nos Sul, ac eistedd yn y Sêt Fawr gydag ef, pan na byddai neb arall o'r cartref yn digwydd bod yn y Capel. Nid oes gennyf ddim cof am bregethau o'r cyfnod hwnnw, ond y byddwn yn synnu pam yr oedd raid i ambell un weiddi mor uchel yma ac acw ar ei bregeth. Cofiaf wynebau'r hen bobl fyddai 'n eistedd yn y seddau blaen hyd heddiw, wynebau wedi eu rhychu gan amser a chaledwaith, eto'n dirion a bodlon i gyd ond un hen wraig fechan, druan ei golwg, a fyddai'n mynd yn