Tudalen:Brithgofion.djvu/49

Gwirwyd y dudalen hon

llai o hyd wrth i rywun edrych arni. A chwithau'n mynd fel pe baech yn mynd ymhell oddiwrthi, ac yn rhwbio'ch llygaid er mwyn bod yn siŵr mai hi, nid chwi, oedd yn mynd yn bellach bellach nes . . .

Buasai'n well gennyf eistedd yn sêt y teulu, canys yr oedd ffenestr am y llwybr â hi, ffenestr a'r darn isaf ohoni wedi ei farugo, fel na welech ddim yn eglur drwy'r darn. hwnnw. Edrychais lawer ar y ffenestr er hynny, ac yr wyf yn ei chofio oblegid un peth. Yr oedd coeden oddi— allan yn lledagos ati, a byddwn yn sylwi ar ei changhennau'n plygu ac yn sythu pan fyddai'r gwynt yn chwythu. Pan oeddwn beth yn hŷn, darllenais ddarnau o waith Thomas Edwards o'r Nant, ac yn eu plith ei ddisgrifiad o ddyn, "wrth naturieth" wedi troi'n druenus— "A'i feddydliau'n anwadal, yn falch ac yn wawdus, yn ymlid fel canghennau pren ar wynt, Rhyw helynt afreolus." Cofiais am y goeden a welwn drwy'r ffenestr farrug honno gynt. Nid anghofiais byth mo'r peth na'r pennill. A lwyr ddeallwn ni byth gymhariaethau prydydd godidog fel Thomas Edwards oni welsom ninnau rywdro y peth a welodd yntau? Nid oes gennyf gymaint o gof am yr Ysgol Sul yn fy mlynyddoedd cyntaf, canys yr oeddwn wedi dysgu darllen Cymraeg a Saesneg syml gan fy mam cyn y bernid fy mod yn abl i gerdded yn ôl a blaen ar bob tywydd. Eto, cof da am rai o'r hen gymeriadau syml fyddai'n athrawon arnom yn ddiweddarach. Gweithwyr canol oedd a hŷn na hynny, a fyddai wrthi'n galed ar hyd yr wythnos, ac yna'n cerdded ddwywaith neu dair ar y Sul, rai ohonynt gymaint â milltir neu ddwy bob ffordd, i'r capel yn ffyddlon. Cofiaf am un yn enwedig fyddai'n mynd i bob cyfarfod, ar Sul a noson waith. Rhaid mai dyn gweddol ifanc ydoedd. Dyn glandeg, wedi ymwisgo'n dda bob amser. Llygaid glas loyw, gwên ar ei wyneb a gair caredig wrth blant, heb fyth fethu, gŵr a garai pawb. Darllenai bennod o'r Ysgrythur ar osteg yn effeithiol a gweddïai à llais tyner, llais canwr da. Nid dywedyd pethau ar ei gyfer am yr Hollalluog wrth yr Hollalluog y byddai ef, ond cyfaddef, gofyn a diolch—gallai hyd yn oed hogyn chwannog i "wlana," fel y byddem yn dywedyd