Tudalen:Brithgofion.djvu/50

Gwirwyd y dudalen hon

am rai absennol eu meddwl, ddeall hynny, a gwrando arno. Gwelais ef lawer tro, ar ôl diwrnod o waith, yn cerdded ar frys mawr, wedi glanhau a phorthi ei wedd, i gyrraedd y capel erbyn hanner awr wedi saith. Byddai ei wyneb yn chwŷs diferol. Unwaith, yn yr hydref, a hithau wedi oeri'n gynnar, cafodd oerfel trwm a drwg ar yr ysgyfaint. Ni chafodd feddyg mewn pryd, a rhegodd hwnnw pan welodd ef o'r diwedd am na buasai rhywun wedi danfon amdano ef yn gynt. Bu'r truan farw cyn hir, a galarodd darn gwlad ar ei ôl. Byddai pobl yn dywedyd iddo adael y rhan fwyaf o'r arian a gynilodd i'r Capel, a'r gweddill i'w feistr, gŵr "garw amdani," fel y dywedai ei gymdogion, canys nid oedd gan y gwas, mae'n debyg, berthynas yn y byd. Un o bell ydoedd. Ni wyddai neb ddim o'i hanes, ond dywedai'r wraig a olchai ei ddillad a'u trwsio iddo ei fod yn ŵr bonheddig ag ôl "dygiad da i fyny" arno. Ni ddaeth ei gyfrinach byth allan, hyd y gwn i.

Cofiaf rai geiriau a glywid ynglŷn â'r Capel a'i drefniadau, ond am fynd o gwmpas gyda'r blwch i gasglu yn y gwasanaeth, "ceinioca" fyddai'r gair. "Taro'r dôn a ddywedid am ddechrau'r canu, ac "eilio" y byddai'r merched a ganai alto a'r meibion a ganai denor neu fas. Byddai llyfr tonau Ieuan Gwyllt gan rai, dim ond llyfr emynau yn unig gan y rhan fwyaf, a rhai heb gymaint â hynny. Byddai ambell bregethwr yn "ledio" emyn bob yn ail dwy linell neu dair, yn ôl y mesur, peth oedd, mae'n debyg, yn arfer mewn rhai lleoedd er yr amser pan nad oedd llyfrau emynau yn gyffredin. "Rhybedio y gelwid ail ganu pennill neu ddarn pennill. Hyd yn oed yn yr adeg yr wyf yn sôn amdani, tybid mai mewn eglwysi go gefnog a balch y ceid "harmonia." Ambell dro, byddai Sul heb bregethwr ar ei gyfer, a gelwid y cyfarfod gweddi a fyddai yn lle pregeth yn "gyfarfod pen glin," mewn ymddiddan cyffredin. Byddai'r plant mwyaf bob amser yn "deud adnod" yn y Seiat nos Sul. Unwaith yr oedd hogyn bach yn y sêt gyda'i fam, nid ar y llawr gyda'r lleill, a gofynnodd y pregethwr gan estyn bys ato yntau "Sut y mae'ch adnod chitha, 'mychan i?" "Mae hi'n dda iawn, diolch i chi," oedd yr ateb. Cai ambell un hwyl ar holi'r plant ar yr adnodau a ddywedent, a byddai'r atebion weithiau'n ei ddodi yntau mewn