Tudalen:Brithgofion.djvu/54

Gwirwyd y dudalen hon

pen ychydig ddyddiau yr oedd y prydydd wedi gwneud cerdd ar yr amgylchiad, a honno ar gerdded fel tân gwyllt. Dyma'r unig bennill yr wyf yn ei gofio, a'r dôn— tôn Seisnig, mi gredaf, fel y byddai fy nhad yn ei ganu ambell waith wrth ddywedyd yr hanes:—

Byddid yn canu'r gerdd yn y tafarnau gyda hwyl fawr, a phawb a'i wydryn yn ei law, gan ei godi at ei wefusau gyda chodiad lleisiau'r tenoriaid ar ddiwedd y llinell olaf o'r byrdwn. Gwelais y prydydd unwaith. Aeth fy nhad a mi i'w ganlyn i edrych amdano. Gweithiai mewn gwaith nwy. Wedi cael te aethom gydag ef i weld y gwaith, a gwelsom ef yn taflu glo i'r tanau. Dyn cadarn, dwylath o hyd, wyneb coch, llawen, a chwarddwr calonnog. Yr oedd yn noeth o'r wasg i fyny. Agorodd ddrws y ffwrn a thaflu glo i mewn iddi. Disgynnai llwch y glo drosto nes ei fod fel dyn du. Eiliad na byddai'n ddyn gwyn eilwaith, gan y chwŷs a lifai drosto. Truan oedd gweld ei fath, un a fu gynt fyw'n rhydd yn yr haul. Gofynnodd fy nhad iddo a wnâi ambell gerdd bellach. "Na," meddai gan chwerthin, "dim cerddi yn yr uffern yma!"

Byddai diddordeb mewn englyna yn beth cyffredin ymhlith pobl o hyd, a gwobr am englyn bob amser yn y y cyfarfodydd cystadleuol a gynhelid tua'r Nadolig a'r Calan. Ryw brynhawn braf yn yr hydref, daeth dyn bach trwsiadus i holi am fy nhad, gan ddywedyd wrtho ei fod wedi gwneud englyn i'r "Mynydd," ar gyfer rhyw gystadleuaeth, ac y byddai'n ddiolchgar iawn pe cawsai farn fy nhad arno. Yr oedd y gynghanedd wedi dechrau cymryd gafael ynof innau erbyn hyn, ac yr oeddwn yn ceisio dysgu'r rheolau o Ramadeg Bardd Nantglyn, oedd gan fy nhad er pan oedd ef yn ddisgybl i Risiart Ddu of Wynedd yn ei lencyndod yn Nyffryn Clwyd. (Ni rôi fy nhad nemor gymorth i mi, canys yr oedd ar y pryd tan