Tudalen:Brithgofion.djvu/57

Gwirwyd y dudalen hon

VIII.

FFERMWYR.

FFERMYDD heb fod yn rhai mawr iawn oedd yn yr ardal, a thenantiaid oedd y ffermwyr bron i gyd, mi gredaf. Gweithient i gyd yn ddigon caled hefyd, a diau nad peth hawdd bob amser fyddai cael y rhent at ei gilydd mewn pryd. Digon traws fyddai'r meistradoedd tir, a thrawsach fyth y corachod estron a ddewisent yn stiwardiaid. Yr oedd hen draddodiad dosbarth yn gryf ymhlith y ffermwyr, amryw ohonynt o deuluoedd a fu'n berchenogion eu ffermydd eu hunain gynt. Weithiau, ffaelai ffermwr yn ei amgylchiadau, ac ni byddai ddim y gallai ei wneud ond mynd i fyw i fwthyn, neu dŷ mewn rhes "dan yr un to" ag eraill fel y dywedid, anffawd fawr, a mynd i weithio ar y tir am gyflog. Yn gyffredin, cydnabyddid ei ddosbarth er hynny. Cofiaf un felly fyddai'n gweithio yn fy nghartref fy hun. Câi fwyta wrth yr un bwrdd â'm tad a'm mam, a dysgid ninnau'r plant i gydnabod ei blant yntau. Eto, ni byddai un osgo uwchraddol yn y bobl hyn tuag at eu gweithwyr na'u cymdogion. Peth dieithr, yn wir, oedd rhyw arwahander felly yn y gymdeithas honno. Ffynnai cryn lawer o gydweithrediad rhwng y ffermwyr â'i gilydd. Fel y dywedwyd yma eisoes, cynorthwyent ei gilydd gyda rhai gorchwylion, a phan gâi un ohonynt golledion, byddai'r cymdogion oll yn cymortha," fel y dywedid. Cof gennyf am un cymydog i ni a gollodd ddau geffyl un tymor, adeg trin tir at hau yd gwanwyn. Un bore, heb ei fod ef yn gwybod dim am y peth, yr oedd chwech o weddoedd yn un o'i gaeau ac wedi ei droi i gyd cyn y nos. Yr un modd trowyd caeau eraill iddo gan yr un cymdogion. Pan gollai tyddynnwr fuwch neu lo, rhoddai cymydog lo neu ddeunydd buwch iddo, fel dyletswydd. Tebyg mai gweddillion hen ddefod gynt oedd pethau fel hyn, canys hwyrfrydig iawn fyddai'r ffermwyr fel dosbarth i gydweithredu drwy gyd-brynu neu gyd-werthu pethau, neu sefyll gyda'i gilydd i amddiffyn un o'u dosbarth rhag cam oddiar law meistr tir neu stiward. Clywid, yn wir, am